Skip to content

Gwybodaeth i gyflogwyr

Dolenni perthnasol

Mae 14 o ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ledled Cymru a fydd yn gweithredu fel Asiantau Rheoli ar gyfer rhan sector Preifat y rhaglen.
Mae'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd yn rhaglen Cymru gyfan sy'n rhoi cymorth ariannol i gyflogwyr.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
A ydych chi’n gyflogwr a allai greu cyfle am swydd am 6 mis i berson ifanc yn eich cwmni?

A oes gennych gynlluniau i dyfu’ch busnes a’r uchelgais i wneud y swydd yn gynaliadwy ar gyfer y person ifanc ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis?

Os felly, gallwn eich helpu drwy dalu costau cyflog person ifanc ar y gyfradd isafswm cyflog briodol am gyfnod o chwe mis. Byddwn hefyd yn talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn eich cefnogi gyda’r broses recriwtio.

Bydd angen i chi fodloni’r meini prawf canlynol, ac ymrwymo iddynt, fel rhan o delerau ac amodau cymryd rhan yn y cynllun:

  • Mae’r swydd hon yn ychwanegol at y gweithlu presennol
  • Mae’r cwmni wedi pennu cynlluniau ar gyfer tyfu
  • Y nod yw y bydd y swydd yn parhau’n gynaliadwy ar ôl y cyfnod gwreiddiol o 26 wythnos
  • Nid oes unrhyw weithgarwch recriwtio’n mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn cysylltiad â’r swydd hon
  • Nid yw’r swydd wedi’i chreu i gyflenwi am absenoldeb salwch neu gyfnod mamolaeth
  • Ni fydd y swydd hon yn arwain at ddadleoli unrhyw gyflogeion cyfredol
  • Mae’r cyfle hwn am swydd yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr
  • Caiff y sawl sy’n cael y swydd ei dalu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran
  • Cyfle am 6 mis (26 wythnos) ydyw
  • Yr oriau gwaith yw rhwng 25 a 40 awr yr wythnos
  • Os bydd cyflogwr wedi bod yn rhan o’r cynllun o’r blaen mae’n rhaid iddyn nhw allu dangos cynaladwyedd y swyddi blaenorol cyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth pellach.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Rhaid talu’r bobl sy’n cymryd rhan o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n ad-dalu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol priodol.

Rhaid i’r cyflogwr gytuno ar nifer benodol yr oriau gwaith a gontractir am y cyfnod o 26 wythnos. Rhaid i oriau’r contract fod rhwng 25 a 40 awr yr wythnos. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n ad-dalu costau pan weithir mwy o oriau na’r nifer a nodir yn y contract cyflogaeth.

Ar ddechrau’r rhaglen, rhaid i’r bobl sy’n cymryd rhan gael contract cyflogaeth gan y cyflogwr sy’n nodi telerau ac amodau’r gyflogaeth.

Mae’n rhaid i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan fod yn gyflogedig am gyfnod cyfan y rhaglen ac mae’n rhaid i’r swyddi a grëir fod yn ychwanegol at y swyddi llawn presennol, yn hytrach nag yn lle’r swyddi hynny. O ran recriwtio i’r swyddi, rhaid cael disgrifiad swydd unigol sy’n amlinellu strwythur a chwmpas y swyddi. At hynny, rhaid hysbysu deiliaid y swyddi yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau a wneir wedi hynny i delerau ac amodau neu ddyletswyddau’r swyddi.

Mae gennym asiantau rheoli a fydd yn eich cynorthwyo ac a fydd yn gyfrifol am yr holl fiwrocratiaeth. Gallan nhw’ch helpu fel a ganlyn:

  • Hysbysebu’r swyddi ar eich rhan drwy Twf Swyddi Cymru (dolen)
  • Dod o hyd i ymgeiswyr, mynd trwyddyn nhw a sicrhau mai dim ond y rhai sy’n barod am y swydd ac yn bodloni’r meini prawf gaiff eu hanfon atoch chi
  • Ad-dalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol priodol i chi a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer yr oriau a nodir ar y contract
  • Eich cefnogi chi a’r person ifanc am y 6 mis cyfan.

Nod y rhaglen yw y bydd y cyflogwyr yn parhau â’r holl gyfleoedd am swyddi ar ôl cwblhau’r cyfnod gwreiddiol o 6 mis.

Os bydd cyflogwr wedi bod yn rhan o’r cynllun o’r blaen a’i fod yn dymuno gwneud cais eto mae’n rhaid iddyn nhw allu dangos cynaladwyedd y swyddi blaenorol cyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth pellach.

Gyda phwy y dylid cysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Efallai y gallwch dderbyn pecyn cymorth am 12 mis arall drwy’r Rhaglen Recriwtiaid Newydd wrth dderbyn y person ifanc ar Brentisiaeth.

Ewch i dudalen “Rhaglen Recriwtiaid Newydd” yn yr Adran ar Brentisiaethau i gael mwy o wybodaeth am hyn.