Skip to content

Adolygiad Sgiliau Di-dâl

Adolygiad Sgiliau Di-dâl yw archwiliad diagnostig rhad ac am ddim o sgiliau eich busnes y byddwn yn ei gynnig er mwyn deall eich anghenion hyfforddi yn well.

Mae sawl opsiwn gwahanol ar gael ar gyfer busnesau yng Nghymru.

Fodd bynnag, ni fydd yr holl raglenni'n addas ar gyfer eich anghenion chi - felly, mae'n holl  bwysig eich bod yn dewis eich rhaglen yn ofalus ac yn llunio cynllun hyfforddi sy'n gweithio orau i chi.

Bydd profiad eich ymgynghorydd yn werthfawr iawn.

Sut mae hyn yn gweithio?

Mae eich busnes chi’n unigryw. I roi arweiniad proffesiynol ac ymarferol i chi, bydd angen i’ch ymgynghorydd yn y lle cyntaf gael dealltwriaeth drylwyr o gryfderau a gwendidau eich tîm cyfan.
 
Bydd eich ymgynghorydd yn gwneud y canlynol:
  • cynnal asesiad diagnostig di-dâl o sgiliau eich busnes;
  • asesu anghenion dysgu eich tîm;
  • paratoi cynllun hyfforddi;
  • eich cynorthwyo i ganfod ac i wneud trefniadau gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy;
  • eich helpu chi i sicrhau cyllid, os oes cyllid ar gael:
  • dilyn hyn â help i roi'r cynllun hyfforddi ar waith yn llwyddiannus

Os yw’n addas, gall yr ymgynghorydd hefyd drefnu adolygiad mwy cyffredinol o’ch busnes cyfan ar eich rhan.

Beth fydd y gost?

Nid yw'r adolygiad yn costio dim byd. Cynhelir yr adolygiad sgiliau yn rhad ac am ddim heb unrhyw ymrwymiad o gwbl, felly does gennych chi ddim byd i’w golli ac mae gan eich busnes lawer i’w ennill. 

Ble nesa?

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch llinell gymorth sgiliau pobl llwyddiant ar 0845 60 661 60 neu ebostiwch y tîm ar businessskillshotline@wales.gsi.gov.uk