Skip to content

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio

Mae bwlio'n fwy cyffredin nag y tybiwch, gan fod bron i 8 ym mhob 10 plentyn yn y Deyrnas Unedig yn cael eu bwlio. Gall bwlio fod yn gorfforol ee, gwthio rhywun neu ymosod arnynt. Ond ceir sawl math arall hefyd. Dyma rai ohonynt:
  • Galw enwau
  • Tynnu coes
  • Eithrio plentyn o grwpiau o gyfeillion
  • Bygwth neu aflonyddu
  • Cymryd eiddo plentyn

Efallai na fydd eich plentyn eisiau dweud ei fod yn cael ei fwlio. Felly, mae'n bwysig adnabod yr arwyddion ee bod eich plentyn:

  • Yn ymddwyn yn wahanol i'r arfer
  • Yn dioddef hwyliau oriog
  • Yn edrych yn flinedig gan nad yw'n cysgu
  • Yn ypsetio'n hawdd
  • Ddim yn bwyta
  • Ddim yn gwneud y pethau y mae'n arfer eu mwynhau
  • Yn osgoi sefyllfaoedd lle allai fwlio ddigwydd ee ddim eisiau teithio ar y bws ysgol

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio, ceisiwch wneud y canlynol:

  • Mynnwch air yn dawel â'ch plentyn.
  • Gwnewch nodyn o'r hyn mae eich plentyn yn ei ddweud - yn arbennig pwy a gafodd ei enwi yn rhan o'r digwyddiad, pa mor aml y mae'n digwydd, ble, pryd a beth yn union ddigwyddodd.
  • Mae'n bwysig iawn bod cofnodion cywir yn cael eu cadw o'r holl ddigwyddiadau o fwlio a bod camau'n cael eu cymryd pan fydd achosion o fwlio'n cael eu cofnodi.
  • Bydd angen i chi gysuro eich plentyn drwy ddweud wrtho/wrthi wneud y peth iawn yn dod atoch i ddweud am y digwyddiad.
  • Esboniwch y dylai ddweud wrth athro am unrhyw ddigwyddiadau pellach a hynny'n syth.
  • Gwnewch apwyntiad i weld athro neu diwtor dosbarth eich plentyn.
  • Esboniwch y problemau mae eich plentyn yn eu hwynebu wrth yr athro.

Wrth siarad ag athrawon am y bwlio:

  • Ceisiwch beidio â chynhyrfu - cofiwch ei bod yn bosibl nad yw'r athro yn gwybod bod eich plentyn yn cael ei fwlio neu efallai y bydd wedi cael datganiadau sy'n groes i'w gilydd am ddigwyddiad penodol.
  • Byddwch mor fanwl ag sy'n bosibl am yr hyn mae eich plentyn wedi'i ddweud gan roi dyddiadau, lleoliadau ac enwau.
  • Gwnewch nodyn o'r hyn mae'r ysgol yn bwriadu ei wneud.
  • Gofynnwch a oes rhywbeth y gallwch chi ei wneud i helpu eich plentyn yn yr ysgol.
  • Cadwch mewn cysylltiad â'r ysgol - rhowch wybod iddynt os yw pethau yn gwella a hefyd os yw'r problemau'n parhau.

Os ydych yn teimlo nad yw'r ysgol yn ymdrin yn briodol â'ch pryderon:

  • Edrychwch ar bolisi gwrth-fwlio'r ysgol i weld os yw'n dilyn y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt.
  • Trafodwch eich pryderon â'r rhiant-lywodraethwyr neu rieni eraill.
  • Gwnewch drefniant i weld y pennaeth a chadwch gofnod o'r cyfarfod.
  • Os nad yw hyn o fudd, ysgrifennwch at Gadeirydd y Llywodraethwyr gan esbonio eich pryderon a'r hyn yr hoffech ei weld yn digwydd.
  • Cysylltwch â grwpiau cymorth i rieni yn lleol neu'n genedlaethol i holi am gyngor.
  • Cysylltwch â Chyfarwyddwr Addysg eich awdurdod a fydd yn gallu sicrhau bod y Llywodraethwyr yn ymateb i'ch pryderon.
  • Cysylltwch â'r llinell gymorth Parentline Plus i holi am gymorth a gwybodaeth ar unrhyw adeg yn ystod y broses.
  • Fel y cam olaf, ysgrifennwch at y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.