Skip to content

Rheoliadau sy’n llywodraethu’r Strategaeth Rheoli Gwybodaeth

Dolenni perthnasol

Mae’r Cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor a chanllawiau ar gadw, gwaredu, datgelu a throsglwyddo cofnod addysgol disgybl. Mae’n ystyried Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’n amlygu pwysigrwydd trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth pan fydd disgybl yn newid ysgol. Mae’n rhoi canllaw cam-wrth-gam ar yr hyn i’w wneud pan na fydd disgybl wedi dychwelyd i’r ysgol neu gyrraedd yr ysgol pan y’i disgwylir.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r adran hon yn darparu diweddariadau am reoliadau gwybodaeth ysgolion newydd a diwygiedig, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2011.

Mae’r dudalen hon yn rhoi trosolwg fer am y newidiadau i ofynion sy’n codi o newidiadau i reoliadau sy’n llywodraethu:

  • adrodd i rieni
  • y System Drosglwyddo Gyffredin
  • Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr
  • gosod targedau i ysgolion
  • llawlyfrau ysgolion
  • prosbectysau cyfansawdd awdurdodau lleol.

Mae’r newidiadau yn cefnogi’r nod o well hygyrchedd a thryloywder gwybodaeth a’r ffocysu cynyddol ar ddefnyddio data, hunanwerthuso cadarn ac atebolrwydd cryfach.

Yn gryno, y prif ofynion newydd yw:

  • bod gofyn i ysgolion gyhoeddi eu hadroddiad cyd-destunol DEWi diweddaraf am berfformiad yr ysgol yn yr asesiadau diwedd cyfnod allweddol  - neu’r Crynodeb Perfformiad Ysgol Uwchradd – yn yr adroddiadau i rieni, Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr ac yn llawlyfr yr ysgol.  Ni fydd gofynion blaenorol i gyhoeddi ystadegau penodol yn ddilys bellach.
  • bod yn rhaid i dargedau ysgol gynnwys tri tharged fan lleiaf sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd trwy’r broses hunanwerthuso.  Adolygwyd targedau eraill i adlewyrchu polisi ac arfer cyfredol ac i leihau nifer benodol y targedau i’w gosod.
  • bod gofyn i lywodraethwyr gyflwyno targedau i’r awdurdod lleol.  Os nad yw’r awdurdod lleol yn fodlon â’r targed(au), caiff ofyn i gorff llywodraethu gyflwyno targed(au) diwygiedig.  Os fydd yr awdurdod lleol yn dal heb ei fodloni, caiff yntau osod targed i’r ysgol.
  • newidiadau angenrheidiol ar gyfer symud o Gyfnod Allweddol 1 y Cwricwlwm Cenedlaethol i’r Cyfnod Sylfaen o ran casglu data, ei ddefnyddio, ei drosglwyddo a’i adrodd.

Mae canllawiau cryno am effaith y newidiadau ar ysgolion ar gael yn 'Lawrlwytho Dogfen' (Rheoliadau ynghylch adrodd am wybodaeth am yr ysgol ac am ddisgyblion: canllawiau cryno - Medi 2011).

Mae canllawiau cryno am effaith y newidiadau ar awdurdodau lleol ar gael yn 'Lawrlwytho Dogfen' (Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011: Effaith ar Brosbectysau Cyfansawdd Awdurdodau Lleol).

Darperir gwybodaeth ychwanegol, fwy manwl ar gyfer y meysydd polisi hyn trwy ganllawiau pellach a chanllawiau defnyddwyr ymarferol yn y dyfodol.

Mae’r Rheoliadau newydd a diwygiedig fel a ganlyn.

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru)  2011

Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 14) (Cymru) 2011

Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

Noder: mae Rheoliadau 2011 yn disodli rhai adrannau yn y canllawiau canlynol.

Cofnodion addysgol, adroddiadau ysgol a’r system drosglwyddo gyffredin – cadw, gwaredu, datgelu a throsglwyddo gwybodaeth am ddisgyblion (cylchlythyr 18/06) (Dolenni perthnasol )

Adroddiadau blynyddol
y llywodraethwyr: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethol (cylchlythyr 15/01) (Dolenni perthnasol )

Canllaw ar y gyfraith i lywodraethwyr ysgolion (penodau 1, 2, 5, 6, 7, 11, 14, 15)

Prosbectysau ysgolion: canllawiau ar gyfer penaethiaid a chyrff llywodraethol (Cylchlythyr 14/01) (Dolenni perthnasol )

Gosod targedau i ysgolion: canllawiau ar gyfer penaethiaid a chyrff llywodraethol
(dim copi electronig ar gael)

Trefniadau asesu statudol (Dolenni perthnasol )