Skip to content

Partneriaethau Cymdeithasol Lleol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Teitl cyffredinol yw Partneriaethau Cymdeithasol Lleol i ddisgrifio fforymau partneriaethau lleol a sefydlwyd gyntaf oll yn dilyn llofnodi’r Cytundeb Cenedlaethol. Cynrychiolwyr undebau llafur, awdurdodau lleol a llywodraethwyr ysgol sydd ar y rhain yn bennaf, a’u pwrpas fu monitro gweithredu a hyrwyddo arferion effeithiol.

Mae gwaith partneriaeth cryf wedi nodweddu Partneriaethau Cymdeithasol Lleol effeithiol ac ymrwymiad cyffredin i godi safonau. Mae hyn yn digwydd drwy nodi a rhannu arferion gorau a chynnig cymorth parhaus i ysgolion. Mae cymorth lefel uchel a chyfraniad awdurdodau lleol yn allweddol i sicrhau’r budd mwyaf posibl o waith partneriaethau cymdeithasol lleol.

Mae rôl allweddol gan y Partneriaethau i sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau statudol gan gynnwys darpariaethau’r Cytundeb Cenedlaethol sydd nawr wedi’i gynnwys yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol. Drwy fonitro ac ymyrryd effeithiol, mae’r Partneriaethau yn gallu datrys problemau yn lleol yn gynnar yn y broses gan weithio drwy Broses Datrys Problemau genedlaethol y cytunwyd arni.

Lluniodd Grŵp Monitro Cytundeb y Gweithlu (WAMG) ganllawiau manwl i gefnogi gwaith Partneriaethau Cymdeithasol Lleol effeithiol. Ategir hyn gan ddeunydd astudiaethau achos o Gymru sy’n dangos gwaith Partneriaethau Cymdeithasol Lleol effeithiol: