Skip to content

Rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol

Dolenni perthnasol

Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi lansio blwyddyn gyntaf gradd feistr newydd. Bydd hyn yn rhoi Cymru ar flaen y gad ym maes datblygu proffesiynol athrawon.
O fis Medi 2012 bydd gan Athrawon Newydd Gymhwyso y cyfle i ddilyn rhaglen Meistr.

Athrawon Newydd Gymhwyso yn cael y dewis o ddilyn y rhaglen ar yr un  pryd â’u cyfnod Ymsefydlu a’u Datblygiad Proffesiynol Cynnar.

Mae cynghrair yn cynnwys Prifysgolion Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth a’r Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain wedi gael y contract i achredu, cyflwyno a dyfarnu’r rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol.

Mae’r meysydd ar gyfer astudio a gynhwysir yn y rhaglen wedi cael eu dewis yn ofalus yn dilyn trafodaethau gyda ANG, athrawon profiadol a phenaethiaid ac adroddiadau gan Estyn sydd i gyd yn nodi set gyffredin o flaenoriaethau ar gyfer datblygu athrawon newydd gymhwyso.
Am rhagor o wybodaeth ewch i wefan Dysgu Cymru.