Skip to content

Prosiect ymchwil ar waharddiadau anghyfreithlon

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Comisiynwyd y prosiect ymchwil hwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n edrych ar brofiadau teuluoedd o ran gwaharddiadau anghyfreithlon ac yn holi gweithwyr proffesiynol ynghylch sut a pham y byddant yn cael eu defnyddio.

Nid yw'n gyfreithlon i ysgolion ofyn i rieni a gwarcheidwaid gadw eu plant o’r ysgol heb roi hysbysiad ffurfiol iddynt am y gwaharddiad. Cynhaliwyd Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb ar ran Llywodraeth Cymru,  a gwnaeth yr adolygiad a ffynonellau eraill ddod o hyd i dystiolaeth anecdotaidd a oedd yn dangos bod yr arfer o wahardd yn anghyfreithlon yn digwydd mewn rhai ysgolion ar draws Cymru.

O achos hynny, comisiynodd Llywodraeth Cymru brosiect ymchwil gan SNAP Cymru a Barnardo's Cymru i edrych yn fanylach ar y mater hwn, gan ddefnyddio profiadau teuluoedd a oedd wedi’u holi am gyngor oherwydd eu bod wedi derbyn gwaharddiadau anghyfreithlon. Dyma nodau penodol y gwaith ymchwil hwnnw:

  • darganfod i ba raddau y defnyddiwyd gwaharddiadau anghyfreithlon fel ffordd o reoli ymddygiad heriol;
  • clywed am brofiadau teuluoedd sydd wedi wynebu gwaharddiadau anghyfreithlon, i ddarganfod yn benodol o dan ba amgylchiadau y digwyddodd y gwaharddiadau a sut aeth yr ysgol ati i egluro’r gwaharddiad i’r rhieni, y plant a’r bobl ifanc;
  • dysgu mwy am yr arfer o symudiadau wedi'u rheoli, ac yn benodol pa bryd yr oeddent yn llwyddiant i’r plentyn a pha bryd yr oeddent yn niweidiol iddynt.