Skip to content

Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan yn darparu safonau a chanllawiau ar gyfer ymarferwyr i sicrhau mwy o gysondeb o ran ymarfer ledled Cymru.

Trwy Ymddygiad a Phresenoldeb: Cynllun Gweithredu, ein nod yw creu diwylliant o ymyrraeth gynnar, cymorth effeithiol a ffyrdd o ymgorffori a rhannu arferion da i hyrwyddo presenoldeb ac ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion ledled Cymru.

Un o’r camau allweddol yn y Cynllun oedd cynhyrchu Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Lles Addysg (EWS). Mae’r Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan yn darparu safonau a chanllawiau ar gyfer ymarferwyr i sicrhau mwy o gysondeb o ran ymarfer ledled Cymru. Ei nod hefyd yw galluogi’r EWS ac ysgolion i ddarparu gwasanaethau sy’n gyson, yn hygyrch ac o safon uchel.

Mae’r pecyn cymorth hwn mewn 3 adran:

  • Mae Adran 1 yn cynnwys canllawiau a safonau sy’n crynhoi rôl a chyfrifoldeb yr EWS;
  • Mae Adran 2 ar y CD amgaeedig yn cynnwys deunydd enghreifftiol wedi’i gasglu gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru a’r DU;
  • Mae Adran 3 yn cynnwys canllaw arfer da gyda strategaethau ac astudiaethau achos i helpu ysgolion i wella presenoldeb a rheoli diffyg prydlondeb.

Mae'r deunyddiau enghreifftiol ar gael ar y ddolen isod i wefan NGFL Cymru.