Skip to content

Canllawiau ar gyfer bandio ysgolion

Dolenni perthnasol

Mae’r adran hon yn esbonio ein polisïau ar fynd ati’n barhaus i wella ansawdd ysgolion Cymru.
Ym 2011 amlinellodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yr angen am welliannau ynghyd â chyfres glir o gamau gweithredu er mwyn cyflawni’i agenda gwella. Roedd bandio yn un o’r camau hyn.
Yn dilyn araith y Gweinidog ym mis Chwefror, sefydlwyd Uned Safonau Ysgolion newydd o fewn Llywodraeth y Cynulliad.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae bandio yn ffordd o’n helpu ni i weld sut mae ysgolion yng Nghymru yn perfformio.
Nid labelu, enwi na chodi cywilydd yw nod bandio nac, ychwaith, creu tabl cynghrair o ysgolion. Yn hytrach, y nod yw grwpio ysgolion er mwyn gweld pa rai sydd angen cymorth a pha rai y gallwn ddysgu oddi wrthynt. Bydd bandio'n ein helpu i wella ysgolion ledled Cymru