Skip to content

Rhaglen Rhifedd Genedlaethol

Dolenni perthnasol

Mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi pennu codi safonau llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion yn flaenoriaeth.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ystyr rhifedd yw cymhwyso dealltwriaeth fathemategol mewn gweithgareddau beunyddiol yn yr ysgol, yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned.

Mae rhifedd yn golygu mwy nag addysgu rheolau a gweithdrefnau mathemateg. Fodd bynnag, mae'n hanfodol addysgu technegau mathemategol sylfaenol hyd at safon sy'n galluogi dysgwyr i fod yn rhifog.

Mae rhifedd yn disgrifio'r gyfres o sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblemau yn y byd go iawn drwy ddefnyddio ymresymu rhifyddol ac yna dilyn y gweithdrefnau mathemategol i ganfod yr ateb.

Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw codi safonau llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion ledled Cymru. Mae Cangen Rhifedd yr Adran Addysg a Sgiliau wedi datblygu Rhaglen Rhifedd Genedlaethol (RhRhG). Mae’r RhRhG wedi’i gynhyrchu yn ddwyieithog. Mae’n nodi’r camau y byddwn ni a’n partneriaid yn eu cymryd i sicrhau newid sylweddol mewn safonau ar draws y cwricwlwm dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y RhRhG, sy’n targedu plant 5 i 14 oed, yn cynnig camau gweithredu ar lefel genedlaethol, lefel leol a lefel ysgolion i helpu i gefnogi dysgwyr fel eu bod yn gadael yr ysgol gyda’r sgiliau rhifedd sydd eu hangen arnyn nhw.