Skip to content

Llythrennedd a rhifedd

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn datgan mai ein nod ar gyfer addysg yw ‘helpu pawb i gyrraedd eu potensial, i leihau anghydraddoldeb, ac i wella lles economaidd a chymdeithasol’.

Blaenoriaethau’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yw gwella safonau llythrennedd a rhifedd, a lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol.

Mae’r cynllun gweithredu 20 pwynt wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddatblygu Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r rhaglenni yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn eu cymryd i gyflawni newid sylweddol mewn safonau llythrennedd a rhifedd.