Skip to content

Argymhellion o’r Adolygiad o Strwythur y Farchnad Cymwysterau Cyffredinol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Nod yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14i 19 oed yng Nghymru oedd i sicrhau bod gennym ni gymwysterau gwerthfawr a dealladwy sy’n bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru.
Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
The Welsh Government has responded to claims some examiners from the WJECT gave teachers unfair advice on upcoming GCSEs questions.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r Panel Adolygu wedi gwneud pedwar argymhelliad i Lywodraeth Cymru yn dilyn ei Adolygiad o Strwythur y Farchnad Cymwysterau Cyffredinol yng Nghymru.

Comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau adolygiad o strwythur y farchnad cymwysterau cyffredinol yng Nghymru. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Mike Griffiths OBE, Paul Croake a Bethan Guilfoyle CBE. Cafodd yr adolygiad ei lansio mewn ymateb i’r honiadau a wnaed yn The Daily Telegraph ym mis Rhagfyr 2011 mewn perthynas â seminarau sefydliadau dyfarnu. Cafodd yr adolygiad ei gynnal rhwng mis Chwefror a mis Mai 2012.

Ni ddaeth y panel adolygu o hyd i unrhyw dystiolaeth glir i ddangos bod strwythur presennol y farchnad wedi cael effaith niweidiol ar safonau. Er bod rhanddeiliaid wedi mynegi amrywiaeth o safbwyntiau, nid oedd unrhyw gonsensws clir ar effeithiolrwydd y system bresennol. Nid yw’r panel yn ystyried bod diffygion argyfyngus ar y system bresennol.

Fodd bynnag, roedd y panel adolygu yn ystyried y gellid gwella rhai agweddau ar y system gyfredol. Cafodd y pedwar argymhelliad canlynol eu cyflwyno i’r Gweinidog:

  1. 1. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i symud oddi wrth farchnad o sefydliadau dyfarnu niferus. Roedd yn cydnabod y gallai newidiadau arwain at ansefydlogi’r system o bosibl. Fodd bynnag, mae’r panel yn argymell os daw unrhyw gymwysterau sy’n unigryw i Gymru o’r Adolygiad o Gymwysterau, efallai y byddai strwythur sefydliad dyfarnu unigol yn gwasanaethau’r rhain yn dda.
  2. 2. Yn y tymor hwy bod system gymwysterau yr Alban (yn seiliedig ar waith SQA (dolen allanol) yn cael ei hystyried fel model posibl i Gymru. Byddai hyn yn gorfodi archwilio unrhyw oblygiadau cyfreithiol a thechnegol.
  3. 3. Gan mai CBAC (dolen allanol) yw prif ddarparwr cymwysterau cyffredinol yng Nghymru, mae’n bwysig ei fod mor gadarn ac effeithiol â phosibl wrth symud ymlaen. Mae’r panel yn argymell bod CBAC yn adolygu ei genhadaeth, ei strwythur a’i drefniadau llywodraethu. Dylai ystyried rhoi ffocws clir ac ar wahân ar ei swyddogaethau dyfarnu craidd. Dylai hefyd gynnwys grŵp rhanddeiliaid ehangach yn unol â model menter gymdeithasol.
  4. 4. Bod sefydliadau dyfarnu yn adolygu eu polisïau gwrthdrawiad buddiannau ac yn datblygu canllawiau mewn perthynas â diweddaru a datblygiad proffesiynol athrawon ac arholwyr.

Nid yw argymhellion y panel adolygu yn dynodi bod angen unrhyw newidiadau uniongyrchol i strwythur y farchnad ar gyfer cymwysterau cyffredinol yng Nghymru. Bydd argymhellion yr adolygiad hwn yn bwydo i’r Adolygiad o Gymwysterau a gaiff ei gadeirio gan Huw Evans OBE. Bydd yr Adolygiad hwnnw yn mynd gerbron y Gweinidogion ym mis Tachwedd eleni. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i’r ddau set o argymhellion ar yr un pryd ym mis Ionawr 2013.