Skip to content

Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwch (TGAU)

Yr enw cyffredin ar Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd yw TGAU ac mae ar gael mewn amrywiaeth o bynciau.

Gellir ei ddefnyddio fel sylfaen i lwybr astudio neu hyfforddiant lefel uwch neu fel modd o gael mynediad uniongyrchol i’r farchnad waith. Caiff yr arholiadau ar gyfer llawer o bynciau TGAU eu rhannu’n haenau fel bo modd eu haddasu i gyd-fynd â galluoedd amrywiol yr ymgeiswyr.  Trwy gynnig yr arholiadau ar wahanol haenau, mae modd i’r ymgeiswyr geisio ennill cymhwyster mewn ystod o wahanol raddau.

Mae’r graddau a ddyfernir ar gyfer holl arholiadau TGAU yn amrywio rhwng A* a G.  Hefyd, mae modd cael dyfarniad dwbl mewn rhai pynciau ac fel arfer, cânt eu dyfarnu ar sail parau, h.y. A*A* i GG. Mae’r radd TGAU a ddyfernir yn dibynnu ar gyrhaeddiad cyffredinol yr ymgeisydd ym mhob rhan o’r cwrs.
Mae’r rhan fwyaf o bynciau TGAU yn cynnwys cyfuniad o arholiadau allanol ac asesiadau o dan reolaeth.  Hefyd, mae modd astudio rhai pynciau TGAU ar ffurf cwrs byr sy’n gyfwerth â hanner dyfarniad TGAU.  Gelwir cymwysterau TGAU yn ‘gymwysterau a reoleiddir’ ac mae’n rhaid iddynt ddiwallu meini prawf penodol a gaiff eu cytuno ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel arfer.  Mae modd cael rhagor o wybodaeth am gymwysterau a reoleiddir, gan gynnwys TGAU yn gyffredinol, yn yr adran ar Gymwysterau a Reoleiddir ar y wefan.

Asesiadau dan Reolaeth

Cyflwynwyd asesiadau dan reolaeth gyda’r manylebau TGAU a gyflwynwyd ar gyfer eu haddysgu gyntaf o fis Medi 2009.  Roedd asesiadau dan reolaeth yn disodli gwaith cwrs ac yn ddull arall o asesu mewnol.   Mae’r dull hwn yn annog athrawon i ddefnyddio dulliau dysgu, addysgu ac asesu sy’n fwy integredig ac mae’n galluogi athrawon i gadarnhau bod y myfyrwyr wedi cyflawni’r gwaith sy’n ymwneud â’r asesiadau.
• Cynhelir yr asesiadau dan reolaeth o dan amodau goruchwylio a chânt un ai eu pennu gan y sefydliad dyfarnu a’u marcio gan yr athrawon neu cânt eu pennu gan yr athrawon a’u marcio gan y sefydliad dyfarnu.
• Mae’n bosibl y bydd y paramedrau sy’n ymwneud â rheoli asesiadau dan reolaeth yn wahanol i’r paramedrau a ddefnyddir gydag arholiadau ysgrifenedig traddodiadol.  Er enghraifft, cyn belled â bod yr ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio, mae’n bosibl y gallai’r opsiwn fod ar gael iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Gwelir y cyfrannau canlynol o asesiadau dan reolaeth o fewn cymwysterau TGAU:

Pynciau â 0% o Asesiadau dan Reolaeth

Nid oes asesiad o dan reolaeth ar gyfer y pynciau canlynol: Groeg clasurol, economeg, Lladin, y gyfraith, mathemateg, seicoleg, astudiaethau crefyddol a chymdeithaseg.

Pynciau â 25% o Asesiad o dan Reolaeth

Mae 25% o asesiad dan reolaeth yn berthnasol i’r pynciau canlynol: astudiaethau busnes, gwareiddiad clasurol, Saesneg llên, daearyddiaeth, hanes, dyniaethau, ystadegau, Cymraeg llên a Chymraeg ail iaith.

Pynciau â 40% o Asesiad o dan Reolaeth

Iaith Saesneg yw’r unig bwnc sy’n cynnwys 40% o asesiad o dan reolaeth:.  Daeth hyn i rym ar gyfer ei addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2012.

Pynciau â 60% o Asesiad o dan Reolaeth

Dyma’r pynciau lle mae 60% o asesiad o dan reolaeth yn berthnasol: busnes cymhwysol, celf a dylunio, astudiaethau dinasyddiaeth, adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, dawns, dylunio a thechnoleg, drama, peirianneg, Saesneg, y celfyddydau mynegol, iechyd a gofal cymdeithasol, economeg y cartref, lletygarwch ac arlwyo, TGCh, hamdden a thwristiaeth, gweithgynhyrchu, astudiaethau’r cyfryngau, ieithoedd tramor modern, cerdd, addysg gorfforol, Cymraeg a Chymraeg ail iaith (wedi’i gymhwyso).
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y meini prawf sy’n berthnasol i’r pynciau TGAU ac asesiadau o dan reolaeth yn yr adran ‘Cymwysterau a Reoleiddir’.

Y cymwysterau TGAU y mae modd eu hastudio ar hyn o bryd

Gellir dod o hyd i restr o’r holl gymwysterau TGAU (gan gynnwys cyrsiau cymhwysol a chyrsiau TGAU byr) a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn yr adran ‘Cymwysterau a Gymeradwywyd’.

Isod, rhestrir y pum prif sefydliad dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau TGAU a gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy fynd i’w gwefan: