Skip to content

Sgiliau Hanfodol Cymru




Mae Sgiliau Hanfodol Cymru yn gyfres o dri gwahanol gymhwyster sgiliau.

Mae cymwysterau ar gael o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 4 mewn:

  • Cyfathrebu;
  • Cymhwyso Rhif;
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Mae Sgiliau Hanfodol Cymru wedi bod ar waith yng Nghymru ers 1 Medi 2010, ac maent wedi disodli Sgiliau Allweddol.

Asesiadau

Ar lefel mynediad, y corff dyfarnu sy’n darparu’r cymhwyster fydd yn penderfynu ar natur yr asesiad ar gyfer y cymhwyster.  Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r asesiad fodloni’r deilliannau asesu.

Ar gyfer lefelau 1 i 4, bydd y cymwysterau’n cael eu hasesu drwy bortffolio o dystiolaeth.

Y Safonau Cymhwyso

Mae pob lefel sgiliau yn ymgorffori'r lefelau blaenorol, ac yn adeiladu arnynt, felly, ar gyfer pob sgìl, gallwch weld y safonau unigol yn ogystal â gridiau dilyniant. I weld y safonau ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru, gweler yr adran Lawrlwytho Dogfennau isod.

Dyfodol Sgiliau Hanfodol Cymru

Un o'r argymhellion yn yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 (2012) yw na ddylai cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gael eu defnyddio mwyach o fewn Bagloriaeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed.

Bwriedir mynd ati yn 2013, drwy gysylltu a thrafod yn eang â rhanddeiliaid, i adolygu cynnwys, strwythur a dulliau asesu Sgiliau Hanfodol Cymru, a chaiff cymwysterau newydd eu treialu yn 2014. Bydd TGCh yn cael ei disodli gan gymhwyster newydd mewn Llythrennedd Digidol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch ag essentialskillswales@wales.gsi.gov.uk

Astudiaeth Gymaroldeb Sgiliau Hanfodol Cymru ar Sgiliau Cyfathrebu Lefelau 1 i 3

21/01/13
Canlyniad astudiaeth ar y gymhariaeth a wnaed rhwng safonau ar draws yr wyth corff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefelau 1 i 3 yw’r adroddiad hwn.
 

Diweddariad APADGOS ar Gymwysterau Sgiliau

24/05/10
Gall ymweld â wybodaeth ar fanylion am ddatblygiadau a newidiadau mewn perthynas â gwahanol gymwysterau Sgiliau a chymwysterau. Gall ymweld yn bellach ar fanylion pellach am weithredu Sgiliau Hanfodol Cymru a beth y mae hynny’n ei olygu i ymgeiswyr presennol Sgiliau Allweddol a Sgiliau Sylfaenol.
 

Cyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Cymru

24/05/10
Mae cymwysterau Sgiliau Allweddol a Sgiliau Sylfaenol wedi bod yn ganolog i’n hagenda sgiliau yng Nghymru o safbwynt cyrraedd y nod polisi sy’n ymwneud â sicrhau bod pawb yn meistroli’r sgiliau sydd eu hangen mewn addysg, gwaith a bywyd yn gyffredinol. Bydd cyflwyno Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) ym ...
 

Cyfathrebu

06/10/09
Nod y safonau Cyfathrebu yw annog ymgeiswyr i ddatblygu ac arddangos eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i bwrpasau gwahanol.
 

Cymhwyso Rhif

05/10/09
Nod y safonau Cymhwyso Rhif yw annog ymgeiswyr i ddatblygu ac arddangos eu sgiliau o safbwynt defnyddio rhif i fynd i’r afael â thasg, gweithgaredd neu broblem trwy gasglu a dehongli gwybodaeth yn ymwneud â rhifau, gwneud cyfrifiadau, dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau.
 

TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu)

04/10/09
Nod y safonau TGCh yw annog ymgeiswyr i ddatblygu ac arddangos eu sgiliau o safbwynt defnyddio TGCh i gyflawni tasg neu weithgaredd trwy ddarganfod, archwilio, cyfnewid, datblygu a chyflwyno gwybodaeth.
 

Trefniadau Pontio ar gyfer ymgeiswyr Sgiliau Allweddol a Sgiliau Sylfaenol

01/10/09
Gall ymweld a wybodaeth ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru’n dod yn weithredol ar 1 Medi 2010. Bydd y trefniadau hyn yn bodoli ar gyfer ymgeiswyr sy’n dal i i fod wedi eu cofrestru ar gyfer Sgiliau Allweddol a Sgiliau Sylfaenol ar ôl 31 Awst 2010.
 

Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC): brîff cwestiwn ac ateb

09/09/09
Mae'r dudalen hon yn cynnwys brîff cwestiwn ac ateb ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) i'ch cynorthwyo gydag ymholiadau cyffredinol ac ymholiadau'n ymwneud â pholisi. Mae'r ddogfen y gallwch ei lawrlwytho o'r dudalen hon hefyd yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y Cyrff Dyfa ...