Skip to content

E-asesu

Defnyddir y term e-asesu i ddisgrifio amrywiaeth o weithgareddau dysgu ac asesu. Yn aml iawn defnyddir y term e-asesu ar gyfer marcio'n electronig, asesiadau ar-lein a phrofion ar y sgrin.

O safbwynt rheoleiddio, rydym yn diffinio e-asesu fel "...defnyddio systemau electronig i ddatblygu, gweithredu a chynnal asesiadau ar gyfer cymwyseddau achrededig neu gasglu tystiolaeth am berfformiad sy'n cyfrannu at ddyfarnu uned neu gymhwyster achrededig." Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau gan gynnwys:

  • dysgwyr yn teipio eu hatebion i gwestiynau ar y sgrin; 
  • arholwyr yn marcio lluniau sydd wedi eu sganio o bapurau arholi traddodiadol; 
  • dysgwyr yn casglu tystiolaeth mewn e-bortffolio.

Rydym am sicrhau bod y cyrff dyfarnu'n datblygu dulliau e-asesu diogel a theg.

Lle bo asesiad ar gael ar ffurf prawf traddodiadol neu brawf e-asesu, mae'n rhaid i'r canlyniadau fod yn ddibynadwy ac yn gyson. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth rhwng safonau asesiadau p'un a ydynt yn asesiadau technolegol neu asesiadau pen a phapur. Mae rhai astudiaethau achos ynghylch sut mae cyrff dyfarnu yn defnyddio e-asesiadau i'w gweld yn yr adran Egwyddorion Rheoleiddio.

Rydym yn cefnogi e-futures (adnodd ar-lein pedair gwlad sy'n cefnogi arloesedd wrth ddefnyddio e-asesiadau ar gyfer cymwysterau).
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan e-futures (Saesneg yn unig). 

Gallwch ddod o hyd i becyn cymorth e-futures ar wefan e-futures. Mae'n cynnwys esboniadau manwl o dermau cyffredin. (Saesneg yn unig).