Skip to content

Adolygu'r ddarpariaeth Addysg Barhaus i Oedolion gan Awdurdodau Lleol Cymru - Mai 2003

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Canolfan Datblygu Addysg Gymunedol wedi nodi nodweddion arfer da mewn addysg oedolion a chymunedol.

Yn ôl y Ganolfan, dylid mynd i'r afael â'r pum prif faes canlynol i sicrhau darpariaeth effeithiol ac ymarferol:

  • Mynediad (ee mynediad ffisegol, arwyddion, amseroedd a'r mathau o weithgareddau ac ati)
  • Addysg Gydol Oes (ee cyfle i ailhyfforddi, dysgu sgiliau gwahanol, ac ati)
  • Cydweithio rhwng asiantaethau (ee rhannu adnoddau ac arbenigedd, ac ati)
  • Cwricwlwm perthnasol (ee rhaglenni sy'n bodloni anghenion y dysgwr)
  • Rheoli (ee dysgwyr yn cyfrannu i'r broses o reoli'r ddarpariaeth) (CEDC AMA, 1991)

Mae'r adroddiad hwn yn ceisio adolygu'r materion unigol hyn o ran trefniadau darparu gwasanaethau'r awdurdodau lleol (ALl) ar hyn o bryd, cyflwyno casgliadau a chynnig gwelliannau.