Skip to content

Rhwystrau rhag cynyddu’r defnydd o dechnoleg dysgu yn y sector gwirfoddol - Medi 2005

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Diffinnir e-ddysgu fel 'defnyddio technoleg electronig i gynorthwyo, cyfoethogi neu gyflwyno dysgu'.

Nod y prosiect hwn yw penderfynu ar y canlynol:

  • Gwybodaeth a chyfraniad y sector gwirfoddol mewn e-addysg
  • Y manteision gwirioneddol a'r manteision posibl i'r sector gwirfoddol yn sgil defnyddio e-ddysgu
  • Rhwystrau rhag defnyddio e-ddysgu'n effeithiol
  • Y cryfderau, y gwendidau, y cyfleoedd a'r bygythiadau i'r sectorau gwirfoddol wrth ddefnyddio e-ddysgu 
  • Nifer o argymhellion ar gyfer camau gweithredu pellach gan y sector gwirfoddol a phartneriaid yn y dyfodol.
  • Yng Nghymru, mae'r sector gwirfoddol yn cynnwys 30,000 o sefydliadau gwirfoddol a rhynddynt, maent yn cynhyrchu incwm o £1.022 biliwn.  Mae o leiaf 30,000 o bobl yn gweithio yn y sector gwirofddol ac mae'r sector yn ffodus i gael gwasanaeth dros 1.2 miliwn o wirfoddolwyr.

Yr heriau penodol sy'n wynebu sefydliadau gwirfoddol yw ariannu, recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr a gweithio gyda sefydliadau eraill.

Yn rhan o'r prosiect, rhoddwyd hyrwyddwr e-ddysgu ym mhob Cyngor Gwirfoddol Sirol a'u swyddogaeth oedd cynnal gwaith ymchwil ar y camau gweithredu ar sail y briff ar gyfer y prosiect a blaenoriaethau lleol.