Skip to content

Adroddiadau




 

Rhan 1 Prosiect Gweithdai TGAU Saesneg a Mathemateg

17/05/13
Er mwyn datblygu gwybodaeth ac arferion gorau cyfredol ysgolion, mae Llywodraeth Cymru’n ariannu cyfres o weithdai ledled Cymru ar gyfer Penaethiaid adrannau Saesneg a Mathemateg ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru.
 

Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16: Adroddiad Terfynol

13/05/13
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal adolygiad o Gynllunio a Chyllido Ôl-16 yng Nghymru.
 

Dadansoddi effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru 

18/02/13
Mae ein Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar Ddiwygio Lles wedi comisiynu rhaglen ymchwil tri cham i asesu effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru.
 

Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16: Adroddiad Interim

04/02/13
Cychwynnodd yr Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16 yn ffurfiol yn Nhachwedd 2011.
 

Adroddiad adolygu amrywioldeb rhwng deilliannau canolfannau yng Nghymru ar gyfer TGAU Saesneg Iaith

03/12/12
Yn yr adroddiad hwn ceir canfyddiadau adolygiad o berfformiad ymgeiswyr yng Nghymru mewn TGAU Saesneg Iaith.
 

Adolygiad (sydd heb eu hariannu) Annibynnol a Cyflym o'r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn (CDAP) ar ddechrau’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru

30/04/12
Adolygwyd yr Athro Iram Siraj-Blatchford y CDAP dros y cyfnod o Ragfyr 2011 i Ionawr 2012 ac adroddwyd ei barn yn ôl i'r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau.
 

Ymateb i'r Gofrestrfa Hyfforddi Athrawon Graddedig: Ymgynghoriad ar broses sengl o dderbyn ar gyfer hyfforddiant cychwynnol uwchraddedig i athrawon

25/04/12
Rydym wedi ymateb i ymgynghoriad ar gynigion am broses sengl o dderbyn ar gyfer hyfforddiant cychwynnol uwchraddedig i athrawon sydd â goblygiadau i Gymru.
 

Adroddiad Terfynol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gydraddoldebau

18/10/11
Mae’r adroddiad hwn yn pennu casgliadau ac argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i archwilio nifer o faterion sydd yn dylanwadu ar berfformiad addysgol a lles pobl ifanc yng Nghymru.
 

Y Mesur Addysg Arfaethedig (Cymru)

09/12/10
Ymatebion gan randdeiliaid i ddarpariaethau posibl mewn Mesur Addysg (Cymru).
 

Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009

07/12/10
Ym mis Tachwedd 2009 cymerodd 132 o ysgolion o Gymru ran yn y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA); cyhoeddir y canlyniadau heddiw, Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2010. Dyma’r ail dro mae Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg o gyrhaeddiad addysgol, uchel ei barch hwn.
 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Anghenion Addysgol Ychwanegol Ôl-16

22/11/10
Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau ac argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen a gafodd ei gynnull i ystyried ac i wneud argymhellion ynghylch darpariaeth ôl-16 ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
 

Effaith y Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg ar Effeithiolrwydd Ysgolion a Chyrhaeddiad Dysgwyr

22/11/10
Mae’r 'Effaith y Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg ar Effeithiolrwydd Ysgolion a Chyrhaeddiad Dysgwyr' yn amlygu canlyniadau gwaith diweddar ar effaith y dimensiwn rhyngwladol ar ysgolion, a sut mae hynny’n ymwneud â chydestun addysg yng Nghymru. Roedd pob ysgol yn nodi bod defnyddio’r Dime ...
 

Adroddiad Ymchwil yr Academi Sgiliau, Rhagfyr 2009

07/09/10
Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru’r adroddiad ymchwil hwn ym mis Gorffennaf 2009. Nod yr adroddiad oedd adolygu’r ffordd o ddatblygu, gweithredu a chynnal rhwydweithiau’r academi sgiliau ar draws y DU a gwledydd perthnasol eraill.
 

Adroddiad Panel Adolygu Ymchwil a Datblygu

01/09/10
Ffurfiwyd y Panel Adolygu Ymchwil a Datblygu, sy’n cynnwys arbenigwyr o Addysg Uwch, Byd Busnes a Chyllidwyr Ymchwil er mwyn edrych ar sut y gall Cymru berfformio’n well mewn cymhariaeth â gweddill y DU wrth ddenu cyllid ymchwil allanol nag ar hyn o bryd.
 

Adolygiad o Safonau haf 2009 ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth a TGAU Gwyddoniaeth Ychwanegol

21/07/10
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys darganfyddiadau adolygiad ansoddol gan Adran Plant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) ac Ofqual o safonau arholiadau haf 2009 ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth a TGAU Gwyddoniaeth Ychwanegol.
 
Adroddiadau Dynamix a'r Ddraig Ffynci am Chwarae ymhlith Plant

Adroddiadau Dynamix a'r Ddraig Ffynci am Chwarae ymhlith Plant

13/07/10
Adroddiadau Dynamix a'r Ddraig Ffynci am Chwarae ymhlith Plant.
 

Sicrhau gweinyddiad llwyddiannus arholiadau cenedlaethol

25/05/10
Mae’r rheoleiddwyr cymwysterau wedi cyhoeddi adroddiad ar sut maent yn gweithio gyda’r sefydliadau dyfarnu i weinyddu cymwysterau newydd neu rhai sydd wedi eu hadolygu a sut y maent yn ddelio gydag unrhyw amhariad i’r arholiadau.
 

Canllawiau ar y Cynllun Fetio a Gwahardd

26/03/10
Nod y Cynllun Fetio a Gwahardd newydd yw diogelu plant ac oedolion agored i niwed drwy sicrhau nad yw pobl y bernir eu bod yn achosi risg yn cael gweithio gyda hwy. Paratowyd canllawiau cyffredinol ar y Cynllun Fetio a Gwahardd ar gyfer cyflogwyr, ymgeiswyr a defnyddwyr eraill y cynllun.
 

Adroddiad Grŵp Adolygu Annibynnol Coleg Harlech (Adroddiad Hancock)

12/03/10
Mae’r adroddiad hwn yn pennu canlyniadau ac argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol a fu’n ystyried ariannu Coleg Harlech, darpariaeth breswyl Gogledd Cymru Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, yn y dyfodol. Comisiynwyd y gwaith hwn gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ...
 

Adroddiadau ar berfformiad Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)

17/02/10
Maer’r adroddiadau hyn yn darparu manylion am berfformiad CBAC, sef yr unig gorff dyfarnu sydd wedi’i leoli yng Nghymru sy’n cynnig Cymwysterau Cyffredinol (TGAU, Safon Uwch a Prif Ddysgu).
 

Trefniadau mynediad ar gyfer TGAU a TAG: cyfres arholiadau Mehefin 2009

16/02/10
Mae'r Bwletin Ystadegol hwn wedi eu cyhoeddi ar ran y rheoleiddwyr cymwysterau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'n cyflwyno data ar drefniadau mynediad a gymeradwywyd ar gyfer arholiadau TGAU a TAG yn ystod cyfres arholiadau mis Mehefin 2009.
 

Camymddwyn mewn TGAU a TAG: cyfres arholiadau Mehefin 2009

15/02/10
Mae'r Bwletin Ystadegol hwn, cyhoeddwyd ar ran y rheoleiddwyr cymwysterau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn cyflwyno data ar gamymddwyn mewn arholiadau TGAU a TAG yn ystod cyfres arholiadau Mehefin 2009.
 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddarpariaeth Addysg 8-14 oed yng Nghymru: Adroddiad ar Gam Cyntaf yr Adolygiad

05/02/10
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro David Egan, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Cafodd y grŵp y gwaith o ystyried profiadau addysgol plant rhwng 8 ac 14 oed gan gynnwys y cyfnod pontio rhwng addysg gynradd ac addysg uwchradd.
 

Adroddiad Blynyddol at Ysgolion – Blwyddyn Academaidd 2008-09

23/09/09
Nod yr adroddiad yw rhestru’r holl ddogfennau yr anfonodd y Gweinidog at benaethiaid yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd flaenorol (2008-09). Y nod yw rhoi’r holl ganllawiau mewn un adroddiad er mwyn bod yn gyfeirbwynt brys i chi, eich cydweithwyr a’ch cyrff llywodraethu.
 

Arfarniad ariannol o Fesur arfaethedig Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2008

27/07/09
Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn cysylltiad â'r gwerthusiad ariannol o'r Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2008 arfaethedig fel y'i cyflwynwyd gan Jenny Randerson AC ar 14 Mawrth 2008.
 

Adroddiad yr Athro Robin Williams ar gyfer model Coleg Ffederal

22/06/09
Ym mis Gorffennaf 2008, estynnodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wahoddiad i’r Athro Robin Williams sefydlu Bwrdd Cynllunio a llunio adroddiad annibynnol ar fodel ar gyfer Coleg Ffederal erbyn Mehefin 2009.
 

Gwerthusiad o Techniquest

18/06/09
Gwerthusiad o Techniquest gan GHK Consulting Ltd, a gomisiynwyd gan yr Adran dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 

Casglu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb

12/08/08
Comisiynwyd yr addroddiadau canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn casglu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb.
 

Gweddnewid Ysgolion gyda TGCh: Adroddiad y Gweithgor Strategaeth TGCh ar gyfer Ysgolion i Lywodraeth Cynulliad Cymru

01/04/08
Mae’r ddogfen hon yn nodi casgliadau’r gweithgor.
 

Adroddiad grŵp Cynghori'r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar gyfer mis Ebril 2007 - Tachwedd 2007

12/03/08
Mae’r ail adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y materion allweddol a drafodwyd gan y Grŵp ac yn cynnwys, mewn atodiadiau, adroddiadau’r paneli unigol sy’n ymdrin â materion a drafodwyd yn ystod y tymor hwnnw.
 

Adroddiad Blynyddol i Brif Weithredwyr cyrff dyfarnu y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ), Lefel Mynediad a Sgiliau Allweddol, APADGOS, y CCEA, a’r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA) am Fynediad i Asesiadau a Chymwysterau

25/01/08
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r cynnydd a wnaed rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2007 o safbwynt gwaith a gynhaliwyd ar y cyd gan reolyddion cymwysterau allanol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, adrannau’r llywodraeth, cyrff dyfarnu, y Comisiwn Hawliau Anabledd (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau ...
 
Adolygu’r Broses o Gynllunio ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) trwy Gyfrwng y Gymraeg

Adolygu’r Broses o Gynllunio ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) trwy Gyfrwng y Gymraeg

08/01/08
Ym mis Hydref 2006, aethom ati i gomisiynu cwmni ymgynghori London Economics Wales i adolygu’r materion cynllunio ystadegol sy’n sylfaen i gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.
 

Cyrhaeddiad disgyblion 15 oed yng Nghymru: Adroddiad cenedlaethol PISA 2006

05/12/07
Mae’r Rhaglen er Asesiad Disgyblion Rhyngwladol (PISA) yn arolwg o gyrhaeddiad addysgol disgyblion 15 oed a drefnir gan Gorff Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Cymerodd Cymru ran yn yr arolwg yn llawn am y tro cyntaf yn PISA 2006. Llwytho: Adroddiad cenedlaethol PISA 2006 [.pdf 3.3MB] ...
 

Gweithredu'r Hawliau

28/03/07
Gweithredu’r Hawliau: Rhoi Hawliau Plant aPhobl Ifanc ar waith yng Nghymru yn disgrifio’r cyfraniad a wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth ag asiantaethau statudol eraill a chyda’r sector gwirfoddol, i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc fel y maent wedi’u nodi yng Nghonfensiwn y ...
 

Adolygiad o Gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i Ddysgu Undebau

10/11/06
Yn hydref 2005, comisiynwyd ymgynghorydd mewnol i gynnal adolygiad er mwyn asesu effeithiolrwydd cefnogaeth bresennol Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddysgu undebau; ystyried opsiynau ar gyfer y ffordd gyffredinol orau o ddatblygu yn erbyn cefndir strategaethau perthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru ...
 

Adroddiad terfynol ar y gwerthusiad allanol o Gynllun Peilot Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC)

08/08/06
Dyma’r adroddiad terfynol ar y gwerthusiad allanol o Gynllun Peilot Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC), a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Dysgu Gydol Oes, ym Mhrifysgol Nottingham.          Nod y gwerthusiad oedd: gwerthuso cynllun, dull cyflwyno/gweithredu ac effaith Cynllun Peilot CB ...
 

Darpariaeth Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru - Astudiaeth o Ddefnydd, Barn a Phrofiadau Rhieni

10/04/06
Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) y Ganolfan Genedlaethol er Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i gynnal yr astudiaeth hon ar yr un pryd ag y comisiynodd yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES) astudiaeth o’r defnydd o ofal plant yn Lloegr.
 

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru - Adroddiad Blynyddol 2003-2004

20/01/06
Dyma yr Adroddiad Blynyddol cyntaf fel Llywydd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC). Mae’r adroddiad yn darparu gwybodaeth am flwyddyn weithredol lawn gyntaf y Tribiwnlys, o Fedi 2003 hyd ddiwedd Awst 2004. Llwytho: Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru – Adroddiad Bly ...
 

Adolygiad o`r Ddarpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol yng Nghymru

12/01/06
Mae ansawdd y ddarpariaeth HCA yn gyfraniad allweddol i safon addysgu a dysgu yng Nghymru. Pwrpas sylfaenol HCA yw darparu cyflenwad o athrawon newydd gymhwyso o ansawdd uchel ac mewn niferoedd digonol i gwrdd ag anghenion pob ysgol yng Nghymru – beth bynnag fo’u lleoliad daearyddol, cyfrwng addysg ...
 

Prif Adroddiad: Gwerthusiad Cam Cyntaf Fframweithiau Plant a Phobl Ifanc, Hawl Bore Oes a Chymorth

01/01/06
Mae'r ymgynghorwyr annibynnol York Consulting Ltd wedi cynnal cam cyntaf y gwerthusiad cenedlaethol o'r gwaith o roi Fframweithiau Plant a Phobl Ifanc, Hawl Bore Oes a Cymorth ar waith.
 

Llwybrau Dysgu 14-19 yng Nghymru - Adroddiad gan Christine Chapman AC

08/11/05
Gofynnodd y Gwenidiog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes i`r Dirprwy Weinidog ystyried y ffordd orau o ddatblgu`r agenda Llwybrau Dysgu 14–19. Mae`r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion ynglyn a chamau gweithredu pellach yn y meysydd. Llwytho: Llwybrau Dysgu 14–19 yng Nghymru – Adr ...
 

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru - Adroddiad Blynyddol 2004–2005

07/11/05
Mae`r adroddiad blynyddol hwn yn ymwneud ag ail flwyddyn bodolaeth Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (SENTW), ac yn cyflwyno manylion ynglyn â’u gweithgareddau rhwng Medi 2004 a diwedd Awst 2005. Llwytho: Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru – Adroddiad Blynyddol 2004–2 ...
 

Ansawdd a Safonau yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd yng Nghymru

28/06/05
Arolygiad o Gyrfa Cymru Caerdydd a’r Fro Ionawr/Chwefror 2005 Llwytho: Arolygiad o Gyrfa Cymru Caerdydd a’r Fro (pdf = 160KB)
 

Gwerthuso'r Prosiect Gweithwyr sy'n Dysgu: Adroddiad Terfynol (Saesneg)

21/06/05
Cynllun peilot yw'r Prosiect Gweithwyr sy'n Dysgu sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac ELWa. Rhoddwyd y prosiect ar waith ym mis Medi 2002 hyd fis Mawrth 2005. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth y Prosiect Gweithwyr sy'n Dysgu ariannu dysgu di–dâl, hyd at gymhwyster lefel 3, ar ...
 

Adolygiad gan Elizabeth Derrington o gwyn gan EGIS

25/05/05
Adolygiad gan Elizabeth Derrington o gwyn gan EGIS ynglyn ag Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn): Adroddiad Terfynol i Lywodraeth Cynulliad Cymru
 

Ymestyn Hawliau: Eu Gwireddu

24/04/05
Adroddiad sy`n sefydlu mesuriadau gwaelodlin dangosol ar gyfer gwerthusiad y dyfodol o effaith ac effeithiolrwydd strategaeth Ymestyn Hawliau Llywodraeth Cynulliad Cymru. (copi wedi`i ddiwygio) Llwytho: Ymestyn Hawliau: Eu Gwireddu (pdf = 450KB)
 

Ansawdd a Safonau Arweiniad ar gyfer Cleientiaid sy`n Oedolion yn Gyrfa Cymru

11/04/05
Gofynnodd Llwodraeth Cynulliad Cymru i Estyn roi trosolwg o waith Gyrfa Cymru gyda chleientiaid sy`n oedolion yn seiliedig ar drosolwg o`r gwaith a wnaed yn 2003 a 2004. Llwytho:  Ansawdd a Safonau Arweiniad ar gyfer Cleientiaid sy`n Oedolion yn Gyrfa Cymru (pdf = 119KB)
 

Arolwg o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus Gyrfa Cymru

14/02/05
Mae`r adroddiad hwn yn rhoi sylwadau ar drefniadau sefydlu a hyffordiant DPP ar gyfer grwpiau allweddol o staff mewn cwmniau. Llwytho: Arolwg o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus Gyrfa Cymru (pdf = 232KB)
 

Y Gweinidog yn croesawu`r newyddion bod safonau wedi codi

31/01/05
Heddiw (Dydd Llun 31 Ionawr) croesawodd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Jane Davidson gyhoeddi adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant ar gyfer 2003-04.
 

Gwerthuso’r Strategaeth Sgiliau Sylfaenol

02/12/04
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r crynodeb a’r casgliadau o werthuso’r Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru. Nodau’r Strategaeth Sgiliau Sylfaenol yw: fod pob plentyn bach yn cael ei baratoi ar gyfer dysgu pan ddechreua fynd i’r ysgol; y cwtogir ar nifer y plant sy’n gadael ysgol gynr ...
 

E-Ddysgu yng Nghymru: Datblygiadau Cyfredol a Barn Rhanddeiliaid ar Flaenoriaethau i`r Dyfodol

04/10/04
Mae’r ddogfen yma’n darparu manylion ar gamau gweithredu cyfredol i ddefnyddio technoleg e-ddysgu mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, a dealltwriaeth fwy eglur ynghylch sut y gallai hynny gyfrannu at hybu perfformiad a chyfranogiad mewn dysgu. Mae’n cynnwys testun anerchiad cyweirnod gan y Gwei ...
 

Addysg oedolion - dyfodol yn Ewrop?

21/09/04
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar seminar ar Addysg I Oedolion a gynhaliwyd ym Mrwsel ar 1 Mawrth 2004. Mae’n crynhoi cyflwyniadau y seminar a chanlyniadau gweithdai.
 

Ymestyn Hawliau - Creu Gweledigaethau o Ymarfer Effeithiol i Bobl Ifanc yng Nghymru

13/08/04
Mae`r ddogfen hon yn gwerthuso effeithiolrwydd argymhellion a wneir yn "Ymestyn Hawliau – Cynorthwyo Pobl Ifanc yng Nghymru". Llwytho: Ymestyn Hawliau – Creu Gweledigaethau o Ymarfer Effeithiol i Bobl Ifanc yng Nghymru [.pdf 842KB]
 

Gwerthusiad Cynllun Peilot y Gweithiwr Sy`n Dysgu: Crynodeb o Adroddiad y Flwyddyn Gyntaf

13/08/04
Cyniga’r adroddiad yma wybodaeth am werthusiad brosiect y Gweithiwr Sy’n Dysgu yn Llanelli. Pwrpas ei gyhoeddi yw hybu trafodaeth ar bynciau sy’n berthnasol i ddysgu yn y gweithle, er enghraifft, yng nghyd destun cynllun gweithredu drafft sgiliau a chyflogaeth ac adolygiad ELWa o ddysgu yn y gweith ...
 

Gwerthusiad Mewnol/Allanol PHIP a LPSH

29/03/04
Ym mis Gorffennaf 2003, cynhaliodd Adran Addysgu ac Arweinyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru werthusiad mewnol o`r Cyfeiriadur Hyfforddi a Datblygu Cenedlaethol sy`n rhan annatod o`r Rhaglen Sefydlu Broffesiynol i Benaethiaid Newydd (PHIP) yng Nghymru. Mae`r Rhaglen hon yn rhaglen 2 flynedd sy`n ...
 

Cyflawniad disgyblion o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru

10/10/03
Yn 2001, nid oedd unrhyw ddata cenedlaethol ar gael ar ddosbarthiad a chyflawniad disgyblion o leiafrifoedd ethnig mewn ysgolion yng Nghymru.
 

Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth Cymru: Adroddiad Cynnydd Gorffennaf 2003

22/08/03
Mae`r Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth, a lansiwyd ym mis Chwefror 2002, yn rhoi fframwaith strategol ar gyfer polisiau a rhaglenni wedi`u hanelu at gynyddu`r galw am waith sy`n defnyddio sgiliau yng Nghymru. Gwnaed cynnydd sylweddol. Llwytho: Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth Cymru ...
 

Ansawdd a Safonau yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd yng Nghymru: Adroddiad Arolygu

14/08/03
Dyma adroddiad arolygu, a gynhyrchwyd gan Estyn yn unol â Chymal 35 Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ar gais Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i waith Gyrfa Cymru Gorllewin. Llwytho: Ansawdd a Safonau yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd yng Nghymru: Adroddiad Arolygu [.pdf 410KB] (Saesneg yn unig)
 

Adroddiad Terfynol a Chynllun Gweithredu Dros Dro'r Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Bresenoldeb

03/04/03
Roedd Is-adran Cymorth Disgyblion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydlynu'r Grŵp a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr yr holl gyrff sy'n ymwneud â'r gwaith o fynd i'r afael â thriwantiaeth a'i heffeithiau.
 

Astudiaeth o Rai Ysgolion Uwchradd Sydd Wedi Gwella'n Sylweddol

24/02/03
Un o ddyheadau'r Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yng Nghymru yw cynnig cyfle cyfartal gwirioneddol i'n plant yn eu haddysg. Nid ydym yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Er bod safonau cyrhaeddiad wedi codi ym mhob ysgol dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r bwlch rhwng y goreuon a'r rhai sy'n per ...
 

Cynlluniau Rhifedd Haf Yng Nghymru 1998

09/08/02
Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y gellir gwella rhai agweddau o ddarpariaeth gyda rhagor o amser ar gyfer paratoi a threfnu, er bod rhai enghreifftiau ardderchog o ymarfer da ar draws yr amrediad cyfan o gynlluniau haf. Mae parterniaid cymuned potensial hefyd angen amser ddiwallu anghenion disg ...
 

Addysg Drochi A Dysgu Iaith Drwy Dwys

27/03/02
Mae’r papur hwn yn amlinellu prif nodweddion y ddirprwyaeth Weinidogol i Newfoundland & Labrador a New Brunswick rhwng 16 a 21 Medi 2001.
 

Gwersi ar gyfer Gwlad sy’n Dysgu - Polisi Addysg yng Nghymru

27/11/01
Derbyniais wahoddiad yn ddiweddar i draddodi darlith 25 mlynedd yn dilyn lawnsiad y ‘Ddadl Fawr’ ar addysg gan Mr James Callaghan yng Ngholeg Ruskin. Yn digwydd bod, roedd hwn flwyddyn ar ôl imi gael fy mhenodi’n Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Yn fy narlith – ‘Lessons for a Learning Countr ...
 

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Mewn Addysg: Adroddiad Cynghorydd Arbenigol gan Neil Harries

22/11/01
Mae'r Pwyllgor Dysgu Gydol Oes o'r farn ei bod yn hollbwysig sefydlu diwylliant lle defnyddir technolegau gwybodaeth a chyfathrebu mewn ysgolion i godi safonau addysgol. Dechreuodd y Pwyllgor ei adolygiad polisi o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn Addysg drwy ganolbwyntio ar y ffordd y mae aw ...
 

Cyfarfod y Panel Ymgynghorol ar Addysg Datblygu Cynaliadwy

21/11/01
Gwahoddwyd Charles Coombs gan Alan Lansdown i roi manylion ar sut y mae’r Cynulliad yn llwyddo i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Llwytho: Cyfarfod y Panel Ymgynghorol ar Addysg Dros Ddatblygu Cynaliadwy, 31 Mai 2001  [.pdf 21KB] Llwytho:  Cyfarfod y Panel Ymgynghorol ar Addysg Datblygu Cynaliadwy Dy ...
 

Adroddiad Tasglu Sgiliau Cymru

09/11/01
Yn dilyn cyhoeddi astudiaeth Sgiliau Dyfodol Cymru yn gynharach eleni, sefydlwyd Tasglu Sgiliau Cymru i edrych yn drawsbynciol ar oblygiadau strategol yr astudiaeth a gwneud argymhellion i’r Cynulliad am strategaeth sgiliau. Roedd astudiaeth Medrau Dyfodol Cymru yn rhoi gwybodaeth am y sgiliau sydd ...
 

A Ddylai`r Cynulliad Cenedlaethol Gyhoeddi Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion Uwchradd?

29/10/01
Mae’r wybodaeth ar berfformiad ysgolion uwchradd yn cynnwys gwybodaeth gefndirol a manylion arholiadau ar gyfer yr holl ysgolion uwchradd yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr wybodaeth yn flynyddol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, (a’r Swyddfa Gymreig cyn hynny), ac mae’r wybodaeth wedi bod ar gael ar ryw f ...
 

Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant

25/10/01
Mae economi a chymdeithas Cymru yn wynebu sawl her a sawl cyfle; os ydym am fynd i'r afael â hwy mae'n rhaid inni gael poblogaeth sydd wedi cael addysg dda, sy'n meddu ar sgiliau uchel ac sydd wedi'i hymrwymo i ddysgu gydol oes. Er mwyn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o fynd i'r afael â'r heriau h ...
 

Addrodiad y Tasglu Addysg Gorfforol a Chwaraeon yn yr Ysgol

10/10/01
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd pobl Cymru ac mae’n rhoi pwysigrwydd mawr ar addysg gorfforol a chwaraeon yn yr ysgol. Sefydlwyd y Tasglu Addysg Gorfforol a Chwaraeon yn yr Ysgol ym Mai 2000 i gynghori’r Cynulliad ar sut i atgyfnerthu safle addysg gorfforol a chwaraeo ...
 

Effaith y Trefniadau Rheoli Newydd ar y Gwasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru

10/10/01
Yn hydref 1997, fe gomisiynwyd SCYA gan y Swyddfa Gymreig i asesu effaith y trefniadau newydd ar draws Cymru, ac i ymgymryd â gwerthusiadau manwl yn y ddwy ardal oedd yn destun i’r astudiaeth man cychwyn. Bu llawer o newidiadau yng ngwasanaethau addysg a hyfforddiant Cymru ers yr adroddiadau man cy ...
 

Y ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion lleferydd ac iaith yng Nghymru a Lloegr

21/11/00
Ariannwyd yr astudiaeth hon ar y cyd gan yr Adran Addysg a Chyflogaeth, yr Adran Iechyd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yr oedd yn deillio o gylch gwaith y ddau Weithgor Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru a Lloegr. Y prif nodau oedd cyflwyno darlun cyffredinol o natur a maint y gwasanaeth t ...