Skip to content

Geiriau'n Galw - Rhifau'n Cyfri: Cylchlythyr 15/05

Yn y ddogfen hon mae strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer codi safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru.

Dyma ail Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad. Mae`n bwrw ymlaen â`r agenda a bennwyd yn y Wlad sy`n Dysgu a`r un yw ei nodau sylfaenol â`r Strategaeth gyntaf. Y nodau hynny yw:

  • bod pob plentyn ifanc yn barod ar gyfer dysgu pan fydd yn dechrau yn yr ysgol;
  • ein bod yn dal i leihau nifer y plant sy’n gadael yr ysgol gynradd a hwythau’n ei chael yn anodd darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau;
  • bod llai o blant yn gadael addysg orfodol a hwythau’n dal i’w chael yn anodd arfer sgiliau sylfaenol; a
  • bod gostyngiad sylweddol yn nifer yr oedolion sydd â sgiliau sylfaenol gwael.

Mae ail Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys sawl nodwedd newydd a phwysig, gan gynnwys dull o weithredu sy`n cwmpasu pob oed ac sy`n canolbwyntio ar ddeg thema gyffredin a deg grwp sy`n flaenoriaeth.

Llwytho: Geiriau'n Galw - Rhifau'n Cyfri (pdf = 316KB)