Skip to content

Y blynyddoedd cynnar

Ymarferydd gyda phlant ifanc
Mae'r gefnogaeth a'r symbyliad y mae plant yn eu cael yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn cael effaith sylfaenol ar eu gallu ac ar eu potensial gydol eu bywyd.

Mae dau biler canolog i'n gwaith ar y blynyddoedd cynnar - y rhaglen Dechrau'n Deg ar gyfer y grwp oedran 0-3 a'r Cynfod Sylfaen ar gyfer plant 3-7 oed.

Mae yna hefyd raglenni eraill yn ategu'r rhain, gan gynnwys, Cymorth, Cychwyn Cadarn, y Strategaeth Sgiliau Sylfaenol, y Cynllun Gweithredu Rhianta a'r Strategaeth Gofal Plant. Gyda'i gilydd, mae'r rhaglenni hyn yn set gynhwysfawr sy'n targedu anghenion plant ifanc a rhieni ac sy'n helpu i wella canlyniadau'r plant mwyaf difreintiedig.