Skip to content

Hyfforddiant i ymarferwyr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'n hanfodol fod ein system addysg yn darparu nifer digonol o ymarferwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg o safon uchel a chymhwysedd o ran methodolegau addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Mae darparu hyfforddiant o ansawdd uchel i ymarferwyr felly yn allweddol i lwyddiant y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Grant y Gymraeg mewn Addysg

O 2012-13 ymlaen, bydd y grant y Gymraeg mewn Addysg yn cyfuno cyllid a ddarperid yn flaenorol gan nifer o gynlluniau grant oedd yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng y Grant â Chynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr awdurdodau lleol. Mae’r Grant wedi'i anelu at gyflawni canlyniadau a thargedau'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gellir ei ddefnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau, gan gynnwys hyfforddi ymarferwyr lleol.  

Hyfforddiant Cenedlaethol CBAC

Caiff un elfen o Grant y Gymraeg mewn Addysg hefyd ei brigdorri i ddarparu hyfforddiant iaith Gymraeg ar lefel genedlaethol.  Ar hyn o bryd CBAC sy'n darparu'r gwasanaeth hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a ddarperir gan CBAC a'r rhaglen gyfredol o weithgareddau ar eu gwefan:

Rhaglen Genedlaethol Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cyfrwng Cymraeg  CBAC

Hyfforddiant Methodoleg Ddwyieithog

Mae Sgiliaith yn cynnig cwrs hyfforddi dri diwrnod mewn Methodoleg Ddwyieithog sy'n galluogi athrawon a darlithwyr dwyieithog i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn hyfedr wrth addysgu. Mae'r cwrs wedi'i achredu fel modiwl MA a gellir ei ddefnyddio gan ymarferwyr i gyfrannu at MA llawn.