Skip to content

Addysg Cyfrwng Cymraeg ac Iaith Gymraeg

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen hon yn nodi Strategaeth a Rhaglen Weithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae datganiad cyhoeddus am yr hyn yr ydym am ei gyflawni ar ran y Gymraeg.

Mae addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg iaith Gymraeg wedi dod yn gynyddol bwysig yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gan ein system addysg ran allweddol i’w chwarae i helpu i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu Cymru ddwyieithog.

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Cyhoeddwyd y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ym mis Ebrill 2010. Mae’n gosod fframwaith polisi cenedlaethol ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg iaith Gymraeg ar draws pob cyfnod o addysg a hyfforddiant. Nod y Strategaeth yw sicrhau system addysg a hyfforddiant sy’n ymateb i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cynyddu nifer y bobl sy’n gallu defnyddio’r iaith gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle yn ganolog i’r Strategaeth.

Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn gosod agenda tymor hir a chymhleth. Mae’r Rhaglen Gweithredu atodol yn cynnwys manylion pellach am y gwaith sy’n ddisgwyliedig gan Lywodraeth Cymru, ei phartneriaid ac asiantaethau eraill. Mae hefyd yn cynnwys cyfres o dargedau a fydd yn ganolog i lwyddiant cyffredinol y Strategaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n dangos y cynnydd o ran gweithredu’r Strategaeth, a chynhelir adolygiad cynhwysfawr yn 2015.

Os oes gennych chi ymholiad yn ymwneud â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, ebostiwch Llywodraeth Cymru: addysg.gymraeg@cymru.gsi.gov.uk 

Beth yw manteision addysg cyfrwng Cymraeg a sgiliau iaith Gymraeg?

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn gynyddol bwysig yng Nghymru. Gall y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg fod yn fantais fawr i bobl ifanc sy’n chwilio am waith. Mae cyflogwyr yn edrych yn gynyddol am bobl sydd â sgiliau iaith Gymraeg i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd. Mae ymchwil yn dangos bod manteision niferus i fod yn ddwyieithog.

Pa un ai yw plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg, bydd yn dysgu Cymraeg fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol. Nid oes rhaid i rieni allu siarad Cymraeg er mwyn i’w plant fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n bwysig fodd bynnag fod rhieni’n annog eu plant i ddefnyddio’r iaith ac i barhau i ddatblygu eu sgiliau wrth iddynt barhau mewn addysg orfodol.

Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd yn darparu sylfaen dda o sgiliau iaith Saesneg. Caiff sgiliau Saesneg y plant eu datblygu ochr yn ochr â’u sgiliau iaith Gymraeg. Mae canlyniadau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dangos lefelau tebyg o gyflawniad ar y cyfan â’r rheini o ysgolion cyfrwng Saesneg.