Addysg a sgiliau
O fewn Llywodraeth y Cynulliad, yr Adran Plant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) sy'n gyfrifol am addysg a sgiliau yng Nghymru.
Yn yr adran hon o’r wefan, cewch wybodaeth am ein polisïau addysg a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig i chi.
Amcan ein polisïau yw codi lefelau cyflawni yng Nghymru a sicrhau'r dedwyddwch cymdeithasol sy'n hanfodol i ddatblygu economi ffyniannus. Rydym yn hyrwyddo diwylliant o ddysgu gydol oes i wella cyfleoedd pobl ym mhob cam o'u bywydau.
Gwybodaeth ddiweddaraf
Y newyddion o'r ystafell newyddion ar-lein
Croesawodd Prif Weinidog y ffaith bod gwaith Llywodraeth y Cynulliad o weithredu polisi arloesol y Cyfnod Sylfaen ar gyfer yr holl blant 5 - 6 mlwydd oed yng Nghymru yn mynd rhagddo’n llwyddiannus.
Ymgynghoriad
Caiff ysgolion dau ddiwrnod ychwanegol o HMS ym mlwyddyn ysgol 2010/11. Fe ddylai’r ddarpariaeth hon helpu’r ysgolion i roi’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ar waith.
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio’ch barn am lleihau’r amser sydd ar gael i unigolion gynnig gwrthwynebiadau i gynigion cyhoeddedig sy’n ymwneud â threfniadaeth ysgolion.
Prif bwrpas y darpariaethau hyn yn y Ddeddf yw adlewyrchu cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, y ddarpariaeth addysgu ar gyfer plant a phobl ifanc yn y gymuned mewn ysgolion prif ffrwd.
Dolenni perthnasol
Rydym yn gyfrifol am adolygu’r holl gwricwlwm ysgol a’i drefniadau asesu, ac am gynghori’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn unol â hynny.
