Skip to content

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Golygfa o Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw a diogelu materion sy’n perthyn i Gymru a’r gwledydd Celtaidd arall. 

Yn Aberystwyth y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), ac mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC). Mae'n chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol ac addysgol Cymru.  Un o chwe llyfrgell Adneuo Cyfreithiol yw hi. 

Sefydlwyd y Llyfrgell drwy Siarter Frenhinol ym 1907. Ei phrif swyddogaethau yw:

  • casglu a chadw
    - cofnod deallusol Cymru, mewn sawl cyfrwng gwahanol;
    - casgliad helaeth o ddeunydd printiedig sydd wedi’i gyhoeddi, a hynny am fod iddi statws Llyfrgell Adneuo Cyfreithiol
  • rhoi cyfle i amrywiaeth eang o bobl gael gweld yr wybodaeth hon.

Ymhlith y bobl sy'n dueddol o ddefnyddio gwasanaethau'r Llyfrgell y mae:

  •  ymchwilwyr 
  •  myfyrwyr  
  •  busnesau  
  •  haneswyr teulu a haneswyr lleol

Cewch fwy o wybodaeth trwy fynd i wefan y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru'n gyfrifol am waith polisi ac am waith sy'n gysylltiedig â’r ffordd mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei rhedeg. 

Llythr Cylch Gwaith

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn anfon Llythyr Cylch Gwaith at LlGC. Mae'r llythyr yn amlinellu’r rôl sydd gan LlGC i’w chwarae mewn perthynas ag agenda strategol y Llywodraeth. Mae’r llythyr hwn yn nodi’r hyn y dylai roi blaenoriaeth iddo, y canlyniadau a ddisgwylir, yn ogystal â lefel y cyllid a fydd yn cael ei ddarparu. Gallwch weld y Llythyr Cylch Gwaith trwy glicio ar "Llythyr Cylch Gwaith" ar ochr chwith y dudalen hon.