Skip to content

Gwasanaeth Gwybodaeth ar gyfer Amgueddfeydd

Diben y gwasanaeth yw sicrhau bod darllenwyr yn clywed y newyddion diweddaraf am faterion arbennig a hefyd yn derbyn gwybodaeth sy'n berthnasol i amgueddfeydd yng Nghymru.

Mae'n wasanaeth am ddim a bydd tanysgrifwyr yn derbyn yn awtomatig ein bwletin Gwasanaeth Gwybodaeth sydd ar ffurf electronig oddeutu ddwywaith y mis.

Caiff y bwletin ei lunio gan CyMAL a chynhelir y gwasanaeth gan Amgueddfa Cymru ar JISCmail.

Cewch weld rhifyn diweddaraf y bwletin yma:

Bwletin Gwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeyd 128 (gwefan allanol)

Bwletin Arbenning ar y Strategaeth Amgueddfeydd (gwefan allanol)

Sut i ddefnyddio'r Gwasanaeth Gwybodaeth

Dosbarthu Gwybodaeth

Os hoffech ddosbarthu gwybodaeth neu holi darllenwyr eraill am wybodaeth gallwch 'bostio' eitemau ar y Gwasanaeth Gwybodaeth eich hunain. Anfonwch newyddion, ceisiadau neu wybodaeth, ar ffurf e-bost at:

museums-info@jiscmail.ac.uk

Gallwch anfon atodiadau hyd at 1mb eu maint at y rhestr.

Rheoli eich tanysgrifiad

Gallwch ymuno, gadael neu ddiddym eich tanysgrifiad fel y gallwch dderbyn rhifynnau o'r bwletin yn awtomatig trwy hafan Museums-Info.

I dderbyn copïau papur neu i weld yr wybodaeth ar ffurfiau eraill, cysylltwch â CyMAL, Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR.

Ffôn: 0300 062 2112 neu e-bostiwch: cymal@wales.gsi.gov.uk

Cymraeg a Saesneg

Ceir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o bob rhifyn. Gwnaed hyn oherwydd teiml ai'r tanysgrifwyr ei bod yn haws darllen rhifynnau yn y ddwy iaith.

Mae croeso i danysgrifwyr anfon gwybodaeth ac ymholiadau yn uniongyrchol ond gofynnir i chi eu hanfon yn ddwyieithog lle bo'n bosibl.

Chwilio'r Archifau

Gallwch chwilio am eitemau a gafodd eu hanfon ynghynt drwy restr wybodaeth yr Amgueddfeydd, gan gynnwys bwletin y Gwasanaeth Gwybodaeth, yn yr archifau.

Ar y sgrin JISC, os hoffech, er enghraifft, wybod pa eitemau sydd ar gael ynghylch Grantiau CyMAL, teipiwch 'grantiau CyMAL' yn y blwch cyntaf (String) ac yna cliciwch 'submit' ar waelod y dudalen. Dylai darllenwyr nad oes ganddynt gyswllt â'r Rhyngrwyd gysylltu â CyMAL os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynghylch rhifynnau blaenorol o'r Bwletin.

Os byddwch yn wynebu unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio'r Gwasanaeth Gwybodaeth cysylltwch â CyMAL, Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR.

Ffôn: 0300 062 2112 neu e-bostiwch: cymal@wales.gsi.gov.uk