Skip to content

Archifau ar gyfer y 21ain ganrif

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Archifau ar gyfer y 21ain ganrif yn cynnig gweledigaeth strategol ar gyfer y sector archifau. Mae’n cadarnhau pwysigrwydd archifau fel porth i’n treftadaeth cyffredinol, ac yn ystyried eu perthnasedd yn yr oes ddigidol.

Gyhoeddwyd Archifau ar gyfer y 21ain ganrif yn ddau fersiwn baralel yn Lloegr a Chymru. Mae'n amlinellu’r her o flaen y sector archifau, ac yn amlygu’r cyfraniad y gall archifau ei wneud i gymunedau lleol.  

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn ymgynghoriad eang a ddigwyddodd yn ystod haf 2009, a chafwyd atebion wrth unigolion a sefydliadau ledled Cymru a Lloegr. Mae’r ddogfen derfynol yn cynnwys nifer o awgrymiadau gan y cyfranwyr (am wybodaeth bellach, ac er mwyn gweld y ddogfen Saesneg, gweler wefan yr Archifau Cenedlaethol.) Bydd yr Archifau Cenedlaethol a CyMAL yn trafod a chytuno cynllun gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn gweithredu ei argymhellion.

Strategaeth Farchnata

Mae’r Strategaeth Farchnata Genedlaethol hon, ynghyd â’i Chynllun Gweithredu, yn ymateb i Archifau ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae’n ceisio helpu i osod gwasanaethau archifau mewn sefyllfa i wreiddu eu gwir botensial yng Nghymru ac i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer archifau sy’n ystyried grym archifau fel a ganlyn:

  • Rhoi ffurf i’r ymdeimlad a rennir o hunaniaeth y genedl, cymunedau ac unigolion
  • Cynnig amgylchfyd ysgogol ar gyfer dysgu i’r unigolyn a’r teulu, ac ar gyfer dysgu gydol oes
  • Canfod tystiolaeth sydd yn arddangos gonestrwydd penderfyniadau a gweithredoedd cyhoeddus a phreifat ac yn dangos sut y daethpwyd atynt.

Datblygwyd y ddwy ddogfen gyda chefnogaeth y corff partneriaeth strategol Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC) ac maent wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi nodi marchnata a darparu mynediad ar-lein i gatalogau archifau fel blaenoriaeth strategol ar gyfer hybu mynediad i gwasanaethau archifau yng Nghymru.  Bydd y Strategaeth Marchnata Genedlaethol a'i Chynllun Gweithredu yn sail i waith datblygu cynudlleidfa yn y dyfodol ar gyfer y maes archifau yng Nghymru, a hynny er mwyn:

  • Hybu nifer yr ymwelwyr
  • Ehangu mynediad i wasanaethau ac adnoddau
  • Adnabod cryfderau a gwendidau yn y ddarpariaeth farchnata ar hyn o bryd a chynorthwyo i nodi i rhaglennu gwaith ar gyfer y dyfodol