Skip to content

CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant, wedi cyhoeddi  fuddsoddiad o fwy na £2.17 miliwn i annog mwy o bobl i ymweld â’u hamgueddfeydd, eu harchifdai a’u llyfrgelloedd lleol.
Plentyn a dau oedolyn yn darllen llyfr gyda'i gilydd mewn llyfrgell

Mae CyMAL yn helpu hybu a chadw diwylliant a threftadaeth Cymru trwy gynorthwyo amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.

Mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn diogelu a hybu diwylliant a threftadaeth Cymru. Maent yn lleoedd i fwynhau a dysgu i bawb. Rydym eisiau i bawb cael mynediad at eu gwasanaethau

Beth yw gwaith CyMAL?

  • Darparu cyngor a chefnogaeth i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol yng Nghymru
  • Cefnogi a datblygu safonau, arbenigedd a sgiliau proffesiynol
  • Gweinyddu cynlluniau grantiau ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, a darparu cyngor ar ffynonellau eraill o ariannu
  • Datblygu ymchwil a chasglu ystadegau sylfaenol ar draws y sector
  • Bod yn Adran Noddi ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.
  • Cynghori'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon ar faterion polisi, ac ar y cynllun Indemniad y Llywodraeth a chynllun Derbyn yn lle treth.

Sut gallwn helpu eich sefydliad?

Mae gan y rhan fwyaf o’n staff brofiad arbenigol o weithio mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd. Gallwn roi cyngor proffesiynol ar amrywiaeth o bynciau. Mae manylion cyswllt ar y tudalen Cysylltwch â Ni.

Gallwch ddod i hyd i adnoddau a grëwyd i helpu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ac adroddiadau o ymchwil ein bod wedi eu gwneud, gan ddilyn y dolenni ar y chwith.  

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi am ddim i bob aelod o staff. Ewch i'r tudalen Datblygiad Proffesiynol a Digwyddiadau Hyfforddi am ragor o wybodaeth ac i weld beth sydd ymlaen.

Gwybodaeth bellach am y sector

Rydym yn cyhoeddi gyda newyddion ac adroddiadau o amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru dwywaith y flwyddyn. Mae’r rhifyn diweddaraf ar gael yn yr adran Cyhoeddiadau.