Skip to content

Cyhoeddi

Dolenni perthnasol

Yr hyn mae Cyngor Llyfrau Cymru am ei wneud yn 2012-13.
bachgen yn darllen
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy Gyngor Llyfrau Cymru.

Cyngor Llyfrau Cymru

Corff anstatudol yw Cyngor Llyfrau Cymru (CLlC) sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i’r fasnach lyfrau a chylchgronau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi arian ar ffurf grant i Gyngor Llyfrau Cymru. Yn 2012–13, bydd yn cael cyfanswm o £4 miliwn.

Ymhlith y gwasanaethau y mae Cyngor Llyfrau Cymru yn eu cynnig mae:

  • Cyngor golygyddol.
  • Cyngor ar ddylunio.
  • Cyngor ar werthu a marchnata.
  • Nifer o gynlluniau  hyrwyddo darllen gan gynnwys dathliadau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru.

Grantiau

Mae’r CLlC hefyd yn cynnig ystod o grantiau i gyhoeddwyr yng Nghymru ar gyfer cyhoeddi llyfrau a chylchgronau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Pwrpas y grantiau hyn yw cefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hwyluso cyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith.

I gael rhagor o wybodaeth am CLlC, ewch i'w wefan.

Ewch i wefan Cyngor Llyfrau Cymru (dolen allanol)

Cyfres Llyfrgell Cymru

Prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Cyfres Llyfrgell Cymru i sicrhau bod gweithiau Saesneg o bwys o’r ugeinfed ganrif yng Nghymru yn cael eu hailargraffu. Mae hefyd yn sicrhau bod modd eu prynu am brisiau rhesymol.

Mae’r gyfres yn cynnwys llyfrau, gan ddynion a menywod, sy’n cwmpasu amryw o wahanol arddulliau ac sydd o wahanol rannau o Gymru. Mae cloriau deniadol gan y llyfrau gyda chyflwyniad gan rai o lenorion cyfoes gorau Cymru. Ers 2006, cyhoeddwyd 32 o gyfrolau.  

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyfrgell Cymru (dolen allanol).

Gwales

Mae gwefan gwales yn cynnwys gwybodaeth am yr holl lyfrau Cymraeg cyfredol a’r llyfrau o ddiddordeb i Gymru gyda gwasanaeth archebu diogel ar-lein.

Ewch i: wefan Gwales (dolen allanol)

Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo llenyddiaeth. Crëwyd y corff o'r canlynol:

  • Yr Academi Gymreig;
  • Cymdeithas Llenorion Cymru; 
  • Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer, ac yn gweithio'n agos gyda Cyfnewidfa Lên Cymru. Mae'n cynrychioli buddiannau awduron Cymreig y tu mewn i Gymru ac yn rhyngwladol ac yn annog pobl i fwynhau ysgrifennu eraill ac i ysgrifennu eu hunain, trwy raglen o weithdai, cyrsiau, gwyliau a chystadlaethau.

Mae’r gwasanaethau a gynigir gan Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys mentora, bwrsariaethau awduron, gwybodaeth a chyngor, ac asesu llawysgrifau’n annibynnol.

Mae prif brosiectau Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys Llyfr y Flwyddyn a Gŵyl Llen y Lli.

Mae rhagor o wybodaeth am ei weithgareddau ar gael ar wefan Llenyddiaeth Cymru.