Skip to content

Y Loteri Genedlaethol

pelau loteri
Mae 28c o bob £1 a gaiff y Loteri yn mynd at achosion da. Mae pum corff yng Nghymru yn dosbarthu'r arian gyda chyfarwyddyd strategol gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth.

Cafodd mwy na £1 biliwn ei godi ar gyfer achosion da yng Nghymru ers tynnu rhifau buddugol y Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf ar 19 Tachwedd 1994.

Mae 28c o bob £1 a werir ar y Loteri yn mynd at y pum achos da canlynol:

  • y celfyddydau a'r diwydiant ffilmiau; 
  • elusennau; 
  • iechyd, addysg a'r amgylchedd; 
  • treftadaeth; a
  • chwaraeon.

Ni ddatganolwyd y cyfrifoldeb am ddosbarthu arian y Loteri i Lywodraeth  Cymru. Fodd bynnag, gall y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ddylanwadu ar benderfyniadau strategol y rheini sy'n dosbarthu arian y Loteri yng Nghymru. Gwna hyn drwy roi cyfarwyddiadau o ran polisi sy'n disgrifio'r canlyniadau a'r blaenoriaethau y dylid eu cyflawni yng Nghymru, ond heb nodi pa brosiectau a fydd yn derbyn cymorth ariannol.

Dosbarthwyr Arian y Loteri Genedlaethol

Mae pum prif sefydliad yng Nghymru sy'n dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol. Mae gan bob un ei raglen a'i flaenoriaethau ariannu ei hun. Mae'r dosbarthwyr fel a ganlyn:

  • Cronfa'r Loteri Fawr; 
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF);
  • Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC); 
  • Chwaraeon Cymru; a'r 
  • Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA).

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu'i chyfarwyddiadau polisi i Ddosbarthwyr Arian y Loteri. Rhoddwyd cyfarwyddiadau i Gronfa'r Loteri Fawr ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Rhagor o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth dros y we, ewch i'r tudalennu ar y dde neu i wefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol. 

Ewch i: wefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol (cyswllt allanol)