Skip to content

Cadw

Dolenni perthnasol

Yn egluro ac yn cadw gwybodaeth am dreftadaeth adeiledig Cymru.
Mae Cadw yn rhoi grantiau ar gyfer gwarchod ac atgyweirio asedau hanesyddol.
logo Cadw

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch a ddiogelir yn dda i Gymru.

Rydym am wneud yr amgylchedd hanesyddol yn hygyrch i bawb. Mae Cadw yn gwneud hyn drwy:

  • Warchod a diogelu'r amgylchedd hanesyddol.
  • Hyrwyddo mynediad i'r amgylchedd hanesyddol, a gwerthfawrogiad a mwynhad ohono.
  • Hyrwyddo gwaith adfywio nodedig a datblygu cynaliadwy drwy dreftadaeth.

Gwarchod a diogelu'r amgylchedd hanesyddol

Mae Cadw yn gweithio i warchod a diogelu'r amgylchedd hanesyddol ac i hyrwyddo gwaith adfywio drwy dreftadaeth. Mae'n gwneud hyn drwy: 

  • Nodi mannau o arwyddocâd hanesyddol arbennig
  • Rhoi cyngor i awdurdodau cynllunio fel rhan o'r broses gynllunio statudol.
  • Rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus eraill o ran asesiadau amgylcheddol.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad ar arfer cadwraeth da i berchenogion a deiliaid eiddo.
  • Darparu grantiau ar gyfer gwaith cadwraeth, gwaith cynnal a chadw a gwaith atgyweirio ar gyfer adeiladau hanesyddol a henebion cofrestredig. Mae Cadw yn rhoi cymorth grant i brosiectau treftadaeth gymunedol. Mae'n gweithio hefyd gyda noddwyr eraill yr amgylchedd hanesyddol i helpu perchenogion i lunio pecyn ariannu.

Mwynhau'r amgylchedd hanesyddol

Mae Cadw yn croesawu 1.2 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn i 127 o henebion hanesyddol a reolir ganddo ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhai o safleoedd mwyaf adnabyddus Cymru, megis Abaty Tyndyrn a Chastell Harlech.

Drwy ddarparu mynediad i'r safleoedd hyn a'u defnyddio i 'arddangos' hanes Cymru, nod Cadw yw annog pobl i archwilio a gwerthfawrogi'r amgylchedd hanesyddol.

Mae'r safleoedd a reolir gan Cadw yn rhan fach o'r safleoedd hanesyddol, henebion a nodweddion hanesyddol yng Nghymru. Mae olion hanes ym mhob man. Nid ydych byth yn bell o adeilad neu safle o ddiddordeb hanesyddol. Mae Cadw a'i bartneriaid yn gyfrifol am gofnodi'r olion hyn a hefyd am fonitro eu cyflwr.

Partneriaethau

Er mwyn gwarchod a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol, mae Cadw yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner a rhwydweithiau. O sefydliadau mawr cenedlaethol i grwpiau cymunedol lleol llai, mae gan bawb ran i'w chwarae yn nhreftadaeth Cymru.

Ymddiriedolaethau Archaeolegol

Sefydlwyd y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru dros 30 mlynedd yn ôl i roi cyngor archeolegol cynhwysfawr i Gymru gyfan.

Grŵp Amgylchedd Hanesyddol

Sefydlwyd y fforwm hwn gan Weinidogion Cymru yn 2004, i gael trosolwg strategol o'r materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol, ac i geisio hyrwyddo dulliau cyffredin i fynd i'r afael â hwy.

Y Fforwm Treftadaeth Adeiledig

Mae llawer o waith Cadw yn cynnwys cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol Cymru, yn enwedig o ran materion cynllunio a rheoli datblygu. Mae'r Fforwm Treftadaeth Adeiledig yn darparu rhwydwaith ar gyfer y 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru (22 cyngor a'r tri awdurdod parc cenedlaethol) a phartneriaid eraill yn y sector.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cadw.

Ewch i: Gwefan Cadw (dolen allanol)

E-bost: cadw@cymru.gsi.gov.uk