Skip to content

Datblygu'r gweithlu

Rhaid i bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gael eu hyfforddi'n dda a chael yr holl adnoddau angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc ledled Cymru.

Cynllun Datblygu'r Gweithlu ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru

Bydd Cynllun Datblygu'r Gweithlu ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi yn cael eu datblygu er mwyn cael gweithlu abl a gwybodus i ddiwallu anghenion pobl ifanc Cymru.

Yn fwyaf pwysig, rhaid i'r cynllun ddiwallu anghenion pobl ifanc ac ymateb i'w huchelgais. Mae'n sylweddoli bod pobl ifanc eisiau Gwasanaeth Ieuenctid:

  • sy'n berthnasol iddynt hwy
  • sy'n gwybod beth sy'n bwysig iddynt hwy, a'r hyn sy'n effeithio arnynt
  • a fydd yn creu cyfleoedd a heriau sy'n amrywiol ac yn ddiddorol.

Argymhellion a chamau gweithredu

Bydd Cynllun Datblygu'r Gweithlu yn cynnig argymhellion a chamau gweithredu ar gyfer y meysydd canlynol:

  • cofrestru gweithwyr ieuenctid
  • fframwaith ar gyfer datblygu proses Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid ar bob lefel o fewn y gwasanaeth
  • rôl Sefydliadau Addysg Uwch wrth ddatblygu cyfleoedd hyfforddi a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • cymeradwyo hyfforddiant amrywiol o ansawdd uchel i weithwyr drwy'r Grwp Cynghori ar Safonau Addysg a Hyfforddiant
  • archwiliad blynyddol o'r hyfforddiant a ddarperir a monitro gweithwyr cymwys yng Nghymru
  • diffiniad o'r Llwybr Cydlynol a mapio gweithgarwch Datblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n briodol i'w lefelau i ddangos sgiliau sy'n drosglwyddadwy ar draws y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir
  • sefydlu modelau gwaith ar gyfer Grwpiau Ymarferwyr Hyfforddi Rhanbarthol