Skip to content

Plant sy'n rhedeg i ffwrdd

Fel rhan o'n cylch gwaith ar gyfer diogelu plant, rydym wedi cyfrannu'n ariannol at brosiect ymchwil ar lefel y DU yn ymwneud â llety argyfwng i blant sy'n rhedeg i ffwrdd, yn ogystal â darparu cynrychiolwyr ar gyfer Grŵp Llywio.

Adolygiad o lety argyfwng i blant sy'n rhedeg i ffwrdd

Cytunodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn briodol i Gymru gael ei chynnwys yn y prosiect ymchwil hwn i adolygu'r llety argyfwng sydd ar gael i blant sy'n rhedeg i ffwrdd, a chyfrannu at gost cyffredinol y prosiect. Cafodd y prosiect ei gomisiynu gan Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd Lloegr mewn cydweithrediad â'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban, fel rhan o'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Plant sy'n Rhedeg i Ffwrdd.

Caiff y prosiect ei weithredu gan Gymdeithas y Plant mewn partneriaeth ag Uned Ymchwil Polisi Cymdeithasol Prifysgol Caerefrog. Maent wedi cynnal nifer o gyfweliadau manwl ar lefel leol ar draws y DU gan gynnwys un yng Nghymru ar ôl pennu ardal nodweddiadol/awdurdod unedol yn ne-ddwyrain Cymru.

Nod

Nod cyffredinol y prosiect yw cynhyrchu cyfres glir ac awdurdodol o argymhellion a fydd yn helpu awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu atebion er mwyn darparu llety argyfwng sy'n diwallu anghenion plant sy'n rhedeg i ffwrdd.

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect ar wefan Cymdeithas y Plant (yn Saesneg yn unig).

Bydd yr ymchwil yn archwilio beth yw llety argyfwng 'effeithiol' o ran y ddarpariaeth sydd ar gael ac a yw'n hygyrch. Hynny er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r modd y caiff llety argyfwng ei gomisiynu a'i ddarparu, canfyddiadau pobl ifanc o'r math hwn o lety a pha mor werthfawr ydyw mewn argyfwng.

Bydd hyn yn helpu'r awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol i ddatblygu llety argyfwng priodol ar gyfer pobl ifanc sy'n rhedeg i ffwrdd, a darparu cefnogaeth mwy hirdymor. Disgwylir y bydd methodoleg yr ymchwil yn sicrhau bod cynulleidfaoedd allweddol yn cael eu cynnwys ym mhob rhan o'r broses, a bydd buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli'n llawn.

Prif nod y prosiect hwn fydd cynhyrchu cyfres glir ac awdurdodol o ganfyddiadau ac argymhellion a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu llety argyfwng effeithiol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sydd wedi rhedeg i ffwrdd. Bydd adroddiad terfynol ar y prosiect cyfan yn cael ei gyhoeddi yn ystod haf 2010.