Skip to content

Gwasanaeth Eirioli a Chynghori Cenedlaethol - Meic

Y llinell gymorth hon, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yw’r cyntaf o’i bath ar lefel genedlaethol.

Lansiwyd meic - y llinell gymorth eirioli a chynghori ddwyieithog genedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc ym mis Mai 2010.

Meic

Wefan Meic

Mae’n cynnig un pwynt mynediad i blant a phobl ifanc yng Nghymru, dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy negeseuon gwib a hynny saith niwrnod yr wythnos. 

Mae’r gwasanaeth hwn wedi cael ei gynnig 24 awr y dydd ers mis Ionawr 2011.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i blant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru ac yn 

  • cynnig gwybodaeth
  • cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau eraill  
  • rhoi’r cyfle iddynt ddefnyddio eiriolwr proffesiynol annibynnol yn ôl y gofyn i’w helpu gyda’u pryderon.

Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio meic dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy negeseuon gwib 24 awr y dydd.

Dyma rai o’r materion y mae plant a phobl ifanc wedi’u codi:

  • cydberthnasau o fewn y teulu 
  • bwlio 
  • iechyd meddwl 
  • materion rhywedd / rhywioldeb  
  • straen arholiadau
  • gwybodaeth leol
  • cyflogaeth 
  • materion tai