Skip to content

Tlodi plant

Dolenni perthnasol

Mae lleihau tlodi, yn arbennig tlodi cyson, yn rhai o'n hardaloedd a'n cymunedau tlotaf yn ganolog i agenda polisi Llywodraeth Cymru.
Mae'n rhoi manylion am y dyletswyddau a roddir ar y cyrff cyhoeddus, ac mae’r rheoliadau yn nodi'r fformat, amseru, ymgynghori a phrosesau adolygu ar gyfer eu strategaethau tlodi plant.
Pasiwyd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddydd Mawrth, 10 Tachwedd 2009.
Strategaeth cyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant.
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 7.
Diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed.
Plant yn dal dwylo

Mae gwaredu tlodi plant erbyn 2020 yn parhau i fod yn flaenoriaeth sylfaenol i Lywodraeth Cymru ac adlewyrchir yr ymrwymiad hwn yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yng Nghymru.

Rydym ni'n cydnabod hefyd bod rhaid trechu Tlodi'n gyffredinol os ydym ni am drechu Tlodi Plant, ac mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn dod â chyfraniadau Llywodraeth Cymru yn gyffredinol at ei gilydd, gan gadw ffocws cryf ar dlodi plant.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn ymgorffori'r tri nod strategol a geir yn Strategaeth Tlodi Plant 2010.