Skip to content

CLIC

Dolenni perthnasol

Diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed.

CLIC yw’r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r contract i ddarparu CLIC, gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.  Clic

Darperir y gwasanaeth gan Promo Cymru a phartneriaid.

Dewisiadau ar sail gwybodaeth

Mae CLIC yn darparu ei wasanaeth mewn perthynas ag Erthyglau 13 ac 17 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)

Mae gwybodaeth a chyngor yn hanfodol i helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau cytbwys am eu bywydau ar amrywiaeth o bynciau sy’n cynnwys

  • iechyd
  • addysg
  • gwaith

ac yn cysylltu â’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael.

Gall gweithwyr ieuenctid cymwys a phrofiadol ddarparu’r wybodaeth hon, a helpu pobl ifanc i:  

  • wneud penderfyniadau cytbwys am y materion sy’n eu hwynebu, 
  • goresgyn y rhwystrau i ddysgu a
  • darparu cymorth yn y tymor byr, canolig neu hir.

CLIC Collective

Mae prosiect CLIC yn gweithio gyda phobl ifanc ac awdurdodau lleol i ddatblygu:  

  • gwefannau lleol a
  • byrddau golygyddol lleol a chenedlaethol o dan arweiniad pobl ifanc.  

Mae’r ‘CLIC collective’ yn cynnwys y wefan genedlaethol yn ogystal â gwefannau lleol:  

Mae pump arall yn cael eu datblygu: 

  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion 
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy 
  • Torfaen

Mae CLIC hefyd yn cyhoeddi ac yn dosbarthu’r CLICzine wedi’i brintio.

Ewch i wefan CLIC Ar-lein i gael rhagor o wybodaeth.