Skip to content

CLICArlein

Dolenni perthnasol

Diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed.

CLICarlein yw’r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r contract i ddarparu CLICarlein, gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.  Clic

Darperir y gwasanaeth gan ProMo-Cymru a phartneriaid.

Dewisiadau ar sail gwybodaeth

Mae CLICarlein yn darparu ei wasanaeth mewn perthynas ag Erthyglau 13 ac 17 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)

Mae gwybodaeth a chyngor yn hanfodol i helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau cytbwys am eu bywydau ar amrywiaeth o bynciau sy’n cynnwys

  • iechyd
  • addysg
  • gwaith

ac yn cysylltu â’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael.

Gall gweithwyr ieuenctid cymwys a phrofiadol ddarparu’r wybodaeth hon, a helpu pobl ifanc i:  

  • wneud penderfyniadau cytbwys am y materion sy’n eu hwynebu, 
  • goresgyn y rhwystrau i ddysgu a
  • darparu cymorth yn y tymor byr, canolig neu hir.

CLICarlein Collective

Mae prosiect CLICarlein yn gweithio gyda phobl ifanc ac awdurdodau lleol i ddatblygu:  

  • gwefannau lleol a
  • byrddau golygyddol lleol a chenedlaethol o dan arweiniad pobl ifanc.  

Mae’r ‘CLICarlein collective’ yn cynnwys y wefan genedlaethol yn ogystal â gwefannau lleol (Dolenni allanol):  

Mae 3 arall yn cael eu datblygu: 
  • Gwynedd
  • Sir Fynwy
  • Sir Benfro

Ewch i wefan CLICarlein (Dolen allanol) i gael rhagor o wybodaeth.