Skip to content

Arolygu a rheoleiddio gofal plant

Dolenni perthnasol

Defnyddir y safonau hyn i benderfynu a yw’r gofal a ddarperir gan leoliadau gwarchod plant a gofal dydd yn ddigonol ar gyfer plant dan wyth oed.

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn hybu gwelliant ym meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol trwy reoleiddio, arolygu ac adolygu a thrwy roi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisïau.

Rôl AGGCC yw gwneud asesiadau proffesiynol a rhoi eu barn ynghylch meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn annog darparwyr i wella’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig.

Mae AGGCC yn hybu gwelliant ym meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol trwy wneud y canlynol:

  • rheoleiddio
  • arolygu ac adolygu
  • rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisïau.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yn sefydlu'r safonau sy'n ofynnol ar gyfer darparwyr cofrestredig gwarchod plant a gofal dydd plant o dan wyth oed yng Nghymru. Dylid darllen y safonau yng nghyd-destun Rhan 2 (Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd) Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a rheoliadau cysylltiedig. Y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu bodloni yw Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Dolenni perthnasol.

Rheoleiddio

Mae Rheoleiddio'n golygu'r canlynol:

  • Cofrestru: penderfynu pwy sy'n gallu darparu'r gwasanaethau
  • Arolygu: arolygu’r gwasanaethau a ddarperir a chyhoeddi adroddiadau
  • Cwynion: archwilio a delio â chwynion (lle nad yw hi'n bosibl defnyddio gweithdrefnau cwyno’r darparydd)
  • Cydymffurfio: cynorthwyo gyda’r gwaith o gydymffurfio â’r rheoliadau
  • Gorfodi: cymryd camau gorfodi er mwyn sicrhau bod gofynion y Ddeddf Safonau Gofal a'i rheoliadau cysylltiedig yn cael eu diwallu.

Mae AGGCC yn rheoleiddio'r gwasanaethau gofal dydd canlynol i blant:

  • gofalwyr plant
  • gofal llawn-amser
  • gofal dydd sesiynol
  • gofal y tu allan i oriau ysgol
  • crèches a mynediad i 'chwarae agored'.

Rhagor o wybodaeth

Mae modd ichi gael rhagor o wybodaeth fanwl am AGGCC trwy fynd i wefan AGGCC.

Manylion cyswllt

Rhif ffôn swyddfa genedlaethol AGGCC yw 01443 848450.