Skip to content

Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref

Dolenni perthnasol

Mae gan Llywodraeth y Cynulliad weledigaeth lle mae gofal plant yn rhan o'r wladwriaeth les fodern, ac ar gael i'r holl rieni hynny y mae angen iddynt fanteisio arno.

Cynllun gwirfoddol yw’r Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant yn y cartref sy’n bodloni meini prawf sylfaenol penodol.

Mae’r Strategaeth Gofal Plant 'Ar gyfer Plant y mae Gofal Plant' (2005) yn rhoi ymrwymiad i ystyried sut i roi sicrwydd i rieni ynghylch amddiffyn plant, diogelwch a dealltwriaeth o ddatblygiad plant wrth ddefnyddio gofalwr ‘cymeradwy’ yn eu cartref, gan alluogi rhieni hefyd i fanteision ar fudd-daliadau treth.

Cyflwynwyd y cynllun (Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru gynt) yn 2007, ac mae’n gynllun gwirfoddol i ofalwyr sy’n darparu gofal plant yn nghartref y plentyn. Fe’i cyflwynir gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Sut i ymuno â’r cynllun

Gall y rheini sydd â diddordeb mewn gwneud cais i gael eu cymeradwyo o dan y cynllun gael rhagor o wybodaeth am y broses o wneud cais ar wefan AGGCC neu drwy ffonio 0300 062 5609.

Manteision y cynllun

Manteision i Rieni

  • Drwy ddefnyddio gofalwr cymeradwy byddwch yn gwybod bod y gofalwr wedi’i archwilio ac wedi bodloni meini prawf sylfaenol fel gweithiwr gofal plant.
  • Mae hyn yn golygu bod y gofalwr yn addas i ofalu am blant ac yn meddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o’u hanghenion a’r hyn i’w wneud mewn argyfwng.
  • Drwy ddefnyddio gofalwr cymeradwy efallai y bydd modd i chi gael cymorth ariannol drwy elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith neu drwy ofal plant â chymorth cyflogwr.

Mae mwy o wybodaeth am gredydau treth ar wefan Directgov.

Manteision i Ofalwyr Plant

  • Gwella cyflogadwyedd drwy gynllun cymeradwyo sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol a’i gomisiynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • Cadarnhad cydnabyddedig o hyfforddiant a statws gofal plant.
  • Mwy o gyfle am waith gyda rhieni a allai fanteision ar fudd-daliadau treth o ddefnyddio gofalwyr plant cymeradwy.