Skip to content

Gofal plant

Dolenni perthnasol

Blaenoriaethau, y camau rydym yn bwriadu eu cymryd, a’n gweithdrefn gofnodi ar gyfer gofal plant yng Nghymru.
Defnyddir y safonau hyn i benderfynu a yw’r gofal a ddarperir gan leoliadau gwarchod plant a gofal dydd yn ddigonol ar gyfer plant dan wyth oed.
Mae GGD yn rhoi gwybodaeth a chyngor am wasanaethau leol i bobl ifanc 0-25 oed, o ofal plant i weithgareddau gwyliau.
Mae gan Llywodraeth y Cynulliad weledigaeth lle mae gofal plant yn rhan o'r wladwriaeth les fodern, ac ar gael i'r holl rieni hynny y mae angen iddynt fanteisio arno.

Gall dod o hyd i ofal plant fod yn hanfodol er mwyn i rieni allu gweithio neu dderbyn addysg, a pheidio felly â chael eu heithrio’n gymdeithasol. Mae llawer iawn o dystiolaeth yn dangos bod gofal plant o safon uchel yn cael effaith bositif ar ddatblygiad plant.

Dod o hyd i ofal plant

Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau gofal plant yn eich ardal.  Defnyddiwch y ddolen berthnasol ar y dde i gael eu manylion.

Datganiad polisi gofal plant: Magu plant, cefnogi teuluoedd

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio ein blaenoriaethau presennol a’n hamcanion hirdymor ar gyfer gofal plant.  Mae’n rhoi amlinelliad o’r camau y byddwn yn eu cymryd i wneud yn siŵr fod pob teulu yn cael cynnig gofal plant o safon uchel, sy’n fforddiadwy, yn hawdd ei gael, ac sy’n bodloni eu hanghenion.

Amcanion allweddol

  • Sicrhau ansawdd
  • Datblygu’r gweithlu
  • Cysylltu rhaglenni
  • Cefnogi Mentrau Gofal Plant
  • Sicrhau bod digon o ddarpariaeth
  • Datblygu’r rhwydwaith
  • Arallgyfeirio’r sector
  • Rhagor o wybodaeth;