Skip to content

Byrddau Lleol Diogelu Plant

Dolenni perthnasol

Anelir y Canllawiau hyn at Brif Swyddogion a phob rheolwr ac ymarferwr yn y cyrff hynny a enwir yn adrannau 28 a 31 o Ddeddf Plant 2004.
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y cwtogir ar y cynllun fetio a gwahardd, gan sicrhau ar yr un pryd fod grwpiau sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn briodol.

Yn dilyn ymchwiliad yr Arglwydd Laming i farwolaeth Victoria Climbie, roedd Deddf Plant 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru a Lloegr sefydlu Bwrdd Lleol Diogelu Plant. Diben pob Bwrdd Lleol Diogelu Plant yw diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc yn eu hardal.

Gwnaeth y Byrddau Lleol Diogelu Plant gymryd lle'r Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant yng Nghymru ym mis Hydref 2006, gan roi dyletswydd statudol ar asiantaethau i gydweithio â'i gilydd. 

Mae ein canllawiau "Diogelu Plant: Cydweithio o dan Ddeddf Plant 2004" yn amlinellu sut y dylai pob asiantaeth a gweithiwr proffesiynol perthnasol yng Nghymru gydweithio er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant a'u hamddiffyn rhag niwed, a hefyd sut y dylai Byrddau Lleol Diogelu Plant gydgysylltu hyn.

Beth a olygir wrth 'diogelu'

Mae 'diogelu' yn gysyniad eang iawn. Ceir nifer o sialensiau newydd fel:

  • codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y rhyngrwyd a seiberfwlio 
  • problemau sy'n wynebu pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, fel priodas dan orfod ac anffurfio organau rhywiol merched  
  • diogelu mewn cymunedau ffydd
  • materion amddiffyn mwy traddodiadol fel hyfforddiant ar gyfer aelodau craidd y grwpiau.

Cylch gwaith y Byrddau Lleol Diogelu Plant

Mae cylch gwaith y Byrddau Lleol Diogelu Plant yn ehangach na chylch gwaith amddiffyn plant yr hen Bwyllgorau Lleol Amddiffyn Plant. Ceir tri maes gwaith cyffredinol:

  • Nodi ac atal camdriniaeth neu niwed i iechyd a datblygiad plentyn
  • Targedu grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed
  • Amddiffyn plant sy'n dioddef niwed, neu mewn perygl o gael eu niweidio.

Prif dasg y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yw sicrhau bod atebolrwydd ar y cyd ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n rhan o brosesau amddiffyn plant o dan Adran 47 Deddf Plant 1989.

Mae hefyd yn hanfodol bod y Byrddau Lleol Diogelu Plant yn diogelu ac yn hyrwyddo lles plant nad ydynt yn rhan o'r grŵp hwn, ond y mae cyfran uwch ohonynt yn rhan o ddigwyddiadau ar draws y DU sy'n arwain at Adolygiad o Achosion Difrifol.