Skip to content

Iechyd, amddiffyn plant a phlant mewn gofal

Dolenni perthnasol

Annog datblygiad cynlluniau ysgolion iach lleol.
Roedd yr ymchwil yn gwerthuso pum prosiect peilot a oedd yn cynnig ymyriadau gyda rhieni sy'n gamddefnyddwyr sylweddau.
Mae dogfen ynghylch gwasanaethau nyrs ysgol wedi cael ei datblygu yn dilyn cyfnod ymgynghori.
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 3.

Mae hybu gwell iechyd, wrth leihau anghydraddoldebau, yn nod polisi pwysig i Lywodraeth Cymru. Rhaid i gamau ataliol fod yn flaenoriaeth uchel ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.

Nod Craidd 3

Mae Nod Craidd 3 yn mynnu bod pob plentyn a pherson ifanc yn mwynhau'r iechyd corfforol a meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol gorau posibl, gan gynnwys rhyddid rhag trais, erledigaeth a chamfanteision.

Mae'r safon National Services Framework 'Hybu Iechyd a Lles' yn dweud y dylai bod gan bob plentyn, person ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr fynediad at ystod o wasanaethau sy'n hybu iechyd a lles ac yn atal salwch.