Skip to content

Rhoi Plant yn Gyntaf

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Rhoi Plant yn Gyntaf

plant bach yn chwerthin

Mae Rhoi Plant yn Gyntaf yn un o raglenni Llywodraeth y Cynulliad. Ei nod yw gwella'r ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu rheoli a'u darparu i blant mewn angen a'u teuluoedd.

Roedd yn rhaglen tair blynedd yn wreiddiol, ond cafodd ei hymestyn ac mae'n dal i fod ar waith heddiw.

Mae'r rhaglen yn pennu amcanion allweddol ar gyfer gwasanaethau plant sy'n berthnasol i'r holl wasanaethau y mae plant sy'n agored i niwed yn dibynnu arnynt, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg. Gofynnir i bob awdurdod lleol ddarparu tystiolaeth i ddangos sut y bydd yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir i blant, a bydd y dystiolaeth honno'n cael ei gwerthuso yn erbyn targedau penodedig. Mae'r rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf wedi bod yn gatalydd ar gyfer gwella, a cheir tystiolaeth bod cynnydd da wedi'i wneud o ran cyflawni ei hamcanion polisi.

Mae tîm Rhoi Plant yn Gyntaf yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bolisïau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau plant. Mae'n cydweithio â swyddogion polisi arweiniol ym mhob rhan o Lywodraeth y Cynulliad, Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, ynghyd â phartneriaid allweddol fel awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol.

Dolenni perthnasol

Rydym yn darparu grant penodol anghylchol o £0.5 miliwn i awdurdodau lleol iddynt allu ysgwyddo baich eu dyletswyddau o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
Diben y canllaw hwn yw atgoffa aelodau etholedig o’u cyfrifoldebau i weithredu fel rhieni corfforaethol da i blant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal.