Skip to content

Y Canllaw i Gymorth Gwladwriaethol

Diben y canllaw i Gymorth Gwladwriaethol yw mynd â chi gam wrth gam drwy'r rheolau ynghylch Cymorth Gwladwriaethol.

Mae'r canllaw yn defnyddio dull 'o'r crud i'r bedd' sy'n mynd â phobl drwy'r broses o

  • nodi pryd mae Cymorth Gwladwriaethol ar gael;
  • deall pa Gymorth Gwladwriaethol y gellir ei ddyfarnu – i bwy, am beth a sut ac o dan ba amodau;
  • sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn unol â'r amodau Cymorth Gwladwriaethol a nodir;
  • sicrhau bod materion ynghylch Cymorth Gwladwriaethol yn eglur mewn llythyron cynnig;
  • sicrhau bod trywydd archwilio priodol yn cael ei nodi at ddibenion cofnodi a monitro.