Skip to content

Y sector Gwyddorau Bywyd

Dolenni perthnasol

Gwaith ar y gweill yw'r ddogfen ac nid yw'n Bolisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru yn cyflogi 15,000 o bobl, ac mae'n werth £1.3 biliwn bob blwyddyn.

Yn ddiweddar, mae'r sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru wedi tyfu dros 19%. Mae'r sector yn amrywiol, yn cael ei arwain gan waith ymchwil ac yn gweithredu ledled y byd, ac mae ei nodweddion yn newid yn gyson wrth i is-sectorau newydd ddod i'r amlwg a datblygu.

Pa ddiwydiannau sydd yn y sector Gwyddorau Bywyd?

Mae'r sector yn cynnwys:

  • Busnesau fferyllol
  • Busnesau biotechnoleg
  • Busnesau technoleg feddygol sy'n cynnig ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys ymchwilio, profi, gweithgynhyrchu a darparu gwasanaethau arbenigol.

Mae busnesau cryfaf y sector yng Nghymru yn cwmpasu ystod o brosesau a thechnolegau, cynhyrchion a gweithgareddau datblygu meddygol a gwyddonol sydd â gwerth ychwanegol. Ymhlith y rhain mae cynhyrchion fferyllol a biotechnoleg, dyfeisiau diagnostig a meddygol a thechnoleg amaethyddol a diwydiannol, o gwmnïau mawr, sefydledig i Fusnesau Bach a Chanolig.

Cwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru

Cwmnïau Angori Gwyddoniaeth

  • Siemens Healthcare Diagnostics (diagnosteg) - Gwynedd
  • Biomet UK (dyfeisiau meddygol) - Pen-y-bont ar Ogwr
  • Norgine Ltd (cynhyrchion fferyllol) - Caerffili
  • GE Healthcare (cynhyrchion fferyllol) - Caerdydd
  • Penn Pharmaceuticals (cynhyrchion fferyllol) – Blaenau Gwent

Cwmnïau Gwyddorau Bywyd sy'n Bwysig i'r Rhanbarthau

  • Convatec Ltd (gwella clwyfau) – Tredegar
  • Convatec Ltd (gweithgynhyrchu) – Glannau Dyfrdwy
  • Nice-Pak (biotechnoleg) – Y Fflint
  • BTG (cynhyrchion fferyllol) – Ceredigion

Er mai ychydig o gwmnïau sydd â'u pencadlysoedd Ymchwil a Datblygu yng Nghymru, mae nifer fawr ohonynt yn cynnal gweithgareddau datblygu gwyddonol yn lleol gan fanteisio ar y cysylltiadau cryf rhwng sefydliadau academaidd, y diwydiant, clinigwyr a'r llywodraeth.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cynnig llawer o gymorth i’r sector. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan: busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol)