Skip to content

Y Sector Ynni a'r Amgylchedd

Dolenni perthnasol

Y polisïau a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i’n helpu i greu economi gynaliadwy, carbon isel ar gyfer Cymru.
Mae Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd yn nodi’r rhan y gall llywodraeth ddatganoledig ei chwarae i ddarparu’r amodau a’r fframwaith gorau i alluogi’r sector preifat i dyfu a ffynnu.
Gwybodaeth ar gyfer gwastraff ac ailgylchu yng Nghymru.
Gwaith ar y gweill yw'r ddogfen ac nid yw'n Bolisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r sector Ynni a'r Amgylchedd yn un o'r sectorau allweddol a nodir yn Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd.

Mae'r sector Ynni a'r Amgylchedd wedi'i nodi fel un sy'n bwysig i Gymru. Cydnabyddir hefyd fod ganddo swyddogaeth alluogi bwysig ar draws yr economi ehangach.

Beth yw'r sector Ynni a'r Amgylchedd?

Mae'r sector Ynni a'r Amgylchedd yn cynnwys:

  • Cynhyrchu a defnyddio ynni
  • Ynni adnewyddadwy
  • Ynni a thechnolegau carbon isel newydd
  • Nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol

Mae'r sector Ynni a'r Amgylchedd yn:

  • Creu swyddi am economi gynaliadwy
  • Sicrhau arbedion mewn adnoddau
  • Gweithredu'r agenda carbon isel, gwastraff isel

Mae'r sector wedi dangos twf uwch na'r cyfartaledd ar lefel y DU. Gydag ymyrraeth benodol, cydnabyddir bod Cymru yn gallu cael manteision cystadleuol ac elwa ar farchnadoedd sy'n tyfu yn y sector hwn.

Ystyrir bod y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector hwn yng Nghymru yn sylweddol. Er enghraifft, amcangyfrifir y gellid buddsoddi £50 biliwn mewn trydan carbon isel yng Nghymru dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.

Canlyniad dadansoddiad a gynhaliwyd gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn 2010 oedd bod sector nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol Cymru yn werth £4.1bn yn 2008/09 a bod ymhell dros 40,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector.

Mae ei hadnoddau naturiol, ei sail wybodaeth bresennol, ei chryfderau academaidd a phresenoldeb rhanddeiliaid byd-eang yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i arwain y broses o newid i economi carbon isel, gwastraff isel.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cynnig llawer o gymorth i’r sector. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan: busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol)