Skip to content

Cronfa Datblygu Prosiectau Digidol

Mae’r Gronfa Datblygu Prosiectau Digidol yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau digidol newydd ar draws gwahanol blatfformau digidol a marchnadoedd rhyngwladol.

Faint o arian alla i gael?

Mae rhwng £5,000 hyd at £50,000 ar gael o’r gronfa i bob prosiect ar gyfer hyd at 50% o’i gostau. Nid oes angen ad-dalu’r arian a geir o’r gronfa hon.

Ei nod yw cynorthwyo busnesau yn y sector diwydiannau creadigol i gynnal gwaith ymchwil a datblygu i brosiectau digidol a helpu i gyflymu twf busnesau yn y sector.

Sut i wneud cais

I wybod mwy am y meini prawf cymhwysedd ac i lawrlwytho’r ffurflen gais, ewch www.busnes.cymru.gov.uk/datblygudigidol (dolen allanol).

Cysylltwch â ni

Os hoffech drafod eich cais yna ffoniwch 03000 6 03000 neu e-bostiwch creative.industries@cymru.gsi.gov.uk. Rhaglen beilot yw’r gronfa hon ac rydym yn croesawu sylwadau allai’n helpu i wella’n gwasanaeth.