Skip to content

Y sector Diwydiannau Creadigol

Dolenni perthnasol

Comisiynwyd yr Athro Ian Hargreaves gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros Dreftadaeth i gynnal adolygiad o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sy'n hyderus, yn amrywiol, yn greadigol ac yn heini.
Mae Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd yn nodi’r rhan y gall llywodraeth ddatganoledig ei chwarae i ddarparu’r amodau a’r fframwaith gorau i alluogi’r sector preifat i dyfu a ffynnu.
Gwaith ar y gweill yw'r ddogfen ac nid yw'n Bolisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r sector Diwydiannau Creadigol yng Nghymru ymhlith y sectorau allweddol sy'n tyfu gyflymaf. Mae'n un o'r sectorau a enwir yn Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd.

Beth yw'r sector Diwydiannau Creadigol?

Diffinnir y sector Diwydiannau Creadigol fel:

  • y diwydiannau hynny sy'n canolbwyntio ar greadigrwydd, sgiliau a dawn unigolion
  • y diwydiannau hynny sydd â'r potensial i greu cyfoeth a swyddi trwy gynhyrchu a manteisio ar eiddo deallusol.

Pa is-sectorau y mae'r sector Diwydiannau Creadigol yn eu cynnwys?

Mae'r sector yn cynnwys:

  • Hysbysebu
  • Pensaernïaeth
  • Crefftau
  • Dylunio
  • Ffasiwn o ansawdd uwch
  • Cyfryngau digidol ac adloniant
  • Ffilm, fideo a ffotograffiaeth
  • Cyhoeddi
  • Cyhoeddi gan ddefnyddio meddalwedd a chyhoeddi electronig
  • Teledu a radio
  • Cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a chelfyddydau perfformio

Yng Nghymru, mae'r sector yn rhoi gwaith i fwy na 30,000 o bobl mewn dros 4,200 o fentrau ac yn cynhyrchu dros £1.8bn o drosiant bob blwyddyn.

Mae'r sector mewn sefyllfa dda i greu rhagor o fomentwm drwy weithredu argymhellion Adolygiad Hargreaves. Mae'r argymhellion hynny:

  • yn annog pobl i feddwl yn strategol
  • yn esbonio cyfrifoldebau
  • yn gwella ein dulliau o gyfathrebu â busnesau creadigol 

Ein nod yw sicrhau bod Cymru yn datblygu ei safle cystadleuol ledled y byd, er gwaethaf ymdrechion mawr gwledydd a rhanbarthau eraill yn y DU.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cynnig llawer o gymorth i’r sector. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan: busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol)

Dilynwch ni

Twitter logoMae gan dîm sector busnes y Diwydiannau Creadigol gyfrif Twitter erbyn hyn @creuyngNghymru (cyfrif Cymraeg, dolen allanol) @welshgocreative (cyfrif Saesneg, dolen allanol). Dilynwch ni i gael y diweddaraf am ddigwyddiadau, teithiau masnach a’r cymorth sydd ar gael.