Skip to content

Y sector adeiladu

Dolenni perthnasol

Rydym wedi sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud a’r penderfyniadau yr ydym yn dod iddynt.
Y polisïau a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i’n helpu i greu economi gynaliadwy, carbon isel ar gyfer Cymru.

Diwydiant Adeiladu Cymru’n chwarae rhan allweddol wrth greu economi ffyniannus ac amgylchedd o ansawdd da.

Beth yw’r sector Adeiladu?

Mae tua 13,000 o gwmnïau yng Nghymru yn y sector adeiladu, sy’n cyflogi mwy na 130,000 o bobl. Mae’n cynnwys pobl broffesiynol megis cynllunwyr, penseiri, syrfewyr a pheirianwyr adeiladu yn ogystal â’r cwmnïau adeiladu traddodiadol sy’n gyfrifol am adeiladu tai newydd, a chynnal a chadw’n hadeiladau hanesyddol a hynafol.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ar gyfer y Sector yw helpu i greu ecosystem adeiladu ddeinamig, lle mae diwydiant, y byd academaidd a llywodraeth leol a chenedlaethol yn cydweithio i greu diwydiant economaidd ac amgylcheddol cynaliadwy sy’n seiliedig ar arloesi a marchnadoedd estynedig sy’n cefnogi lles economaidd, lles amgylcheddol a lles cymdeithasol yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod y gwariant sydd ynghlwm â’r sector Adeiladu werth dros £2.3 biliwn y flwyddyn. Mae’r sector yn cyfrannu tua 10% i’r cynnyrch mewnwladol crynswth.

Datblygu Cynaliadwy

Golyga’r newid yn yr hinsawdd fod gofyn i’r sector fod yn gynaliadwy wrth ddatblygu, yn enwedig wrth ddatblygu technoleg adeiladu.

Rydyn ni’n gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau ein bod yn gallu bodloni’r atebion amgylcheddol a charbon isel y mae cleientiaid eu heisiau yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Byddai hyn yn creu adfywiad cymdeithasol a chymunedol yn ogystal â galluogi busnesau i fod yn fwy cystadleuol.