Skip to content

Cwmnïau angori

Dolenni perthnasol

Mae Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd yn nodi’r rhan y gall llywodraeth ddatganoledig ei chwarae i ddarparu’r amodau a’r fframwaith gorau i alluogi’r sector preifat i dyfu a ffynnu.

Rydym yn cydweithio â chwmnïau angori, cwmnïau pwysig rhanbarthol a chwmnïau sector i ddeall sut gall ein holl adrannau weithio gyda’i gilydd i helpu i ddatblygu cysylltiadau strategol rhwng y llywodraeth a’r sector preifat.

Ein hymrwymiad yn Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd yw creu a datblygu cysylltiadau strategol â chwmnïau angori.

Beth yw cwmni angori?

Cwmni angori yw cwmni:

  • sydd yn sefydliad byd-eang neu ryngwladol a/neu
  • sydd â phencadlys neu bresenoldeb corfforaethol sylweddol yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu cysylltiadau strategol â chwmnïau allweddol sydd y tu allan i’r prif sectorau. Mae gan y cwmnïau hyn statws tebyg i gwmnïau angori yn nhermau cyflogaeth neu bwysigrwydd cenedlaethol neu ranbarthol.

Ceir isod y rhestr o’r cwmnïau angori yr ydym yn cydweithio â nhw, gan gynnwys y rheini y nodwyd eu bod yn ddarpar gwmnïau angori. Edrychwch ar y wefan yn rheolaidd i weld ein rhestr ddiweddaraf.

  • Airbus
  • BA Wales Plc
  • Ford Motor Company
  • GE Aircraft Engine Services Ltd
  • Nu-aire Limited
  • Qioptiq Limited
  • Tata Steel Europe
  • Toyota Motor Manufacturing (UK) Limited
  • RWE Npower Plc
  • Scottish and Southern Energy Plc
  • Sharp Manufacturing Company
  • Wales and West Utilities Limited
  • Western Power Distribution (South Wales) Plc
  • Biomet UK Limited
  • GE Healthcare
  • Norgine Limited
  • Penn Pharmaceutical Services Limited
  • Siemens Healthcare Diagnostics Products Limited
  • Admiral Group Plc
  • Principality Limited
  • RBS
  • British Telecommunications Plc
  • Cassidian Limited
  • General Dynamics UK Ltd
  • IQE Plc
  • International Rectifier Newport Limited
  • Pure Wafer Plc
  • Sony UK Technology Centre
  • Control Techniques Drives Limited
  • HSBC
  • Moneysupermarket.com Group Plc
  • Dŵr Cymru : Welsh Water
  • United Paper Mills Shotton (UPM)
  • Centrica
  • Valero
  • Lloyds TSB Bancio Masnachol
  • Tinopolis Plc
  • Celsa Manufacturing (UK) Limited