Skip to content

Y sector Uwch Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu

Dolenni perthnasol

Gwaith ar y gweill yw'r ddogfen ac nid yw'n Bolisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Yng Nghymru mae traddodiad hir yn perthyn i weithgynhyrchu a bydd yn rhan allweddol o sicrhau economi gytbwys.

Beth yw'r sector Uwch Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu?

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r sector Uwch Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu wedi canolbwyntio fwyfwy ar ychwanegu gwerth at gynhyrchion a gwasanaethau. Mae gweithgynhyrchwyr yn cystadlu ar gost a hefyd yn cynnig gwerth drwy gynnig cynhyrchion a gwasanaethau drwy arloesi a phrosesau rhagorol.

Mae’r sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru’n amrywiol ond mae ganddi gryfderau o ran capasiti a gallu yn yr is-sectorau canlynol:

  • Awyrofod ac Amddiffyn
  • Technolegau Moduro
  • Optoelectroneg
  • Gweithgynhyrchu ym maes Prosesu

Uwch Ddeunyddiau

Mae uwch ddeunyddiau'n rhan bwysig o'r sector. Mae'n cynnwys cyfansoddiad, strwythur a phriodoleddau deunyddiau a'r ffordd y'u cymhwysir yn benodol ar flaen y gad mewn arloesi technolegol.

Yn y dyfodol bydd cynhyrchion gwerth uchel yn canolbwyntio ar fanteisio ar ddeunyddiau newydd fel deunyddiau cyfansawdd, nanotechnoleg, optoelectroneg, electroneg printadwy ac electroneg silicon.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cynnig llawer o gymorth i’r sector. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan: busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol)